Mae clybiau Lloegr, gan gynnwys y Saraseniaid a’r Harlecwiniaid, â diddordeb arwyddo cefnwr Cymru Liam Williams.

Mae’r chwaraewr 25 mlwydd oed yn cael ei adnabod fel un o’r cefnwyr gorau yn y byd ac yn dilyn absenoldeb hir Leigh Halfpenny oherwydd anaf, mae wedi camu i’r bwlch i’w wlad.

Yr awgrym yw y byddai clybiau’n fodlon talu £300,000 y flwyddyn iddo am ei wasanaeth.

Mae’r Scarlets eisiau i Liam Williams aros gyda nhw ond mae’n debyg ei fod yn gohirio arwyddo cytundeb newydd, ac mae peth dyfalu bod rhanbarth y Gweilch yn bwriadu cynnig amdano pan fydd ei gytundeb yn dod i ben y flwyddyn nesaf.

Mae Wales Online hefyd ar ddeall ei fod wedi cael cynnig cytundeb ddeuol gwerth mwy na £250,000 y flwyddyn gan Undeb Rygbi Cymru ond y byddai’r cytundeb hwnnw’n ei weld yn aros gyda’r Scarlets.