Scarlets 17–8 Connacht

Cafodd y Scarlets eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor wrth i Connacht ymweld â Pharc y Scarlets yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Sgoriodd Liam Williams ddau gais mewn gêm anodd ar noson lawog yn y de orllewin.

Hanner Cyntaf

Roedd y ddau dîm yn ei chael hi’n anodd creu llawer mewn amodau anodd ar ddechrau’r gêm ac roedd y glaw yn effeithio ar gicio Aled Thomas hefyd wrth i’r cefnwr cartref fethu gyda thri chynnig cymharol hawdd at y pyst yn y chwarter agoriadol.

Connacht yn hytrach a gafodd bwyntiau cyntaf y gêm gyda’r asgellwr, Niyi Adeolokun, yn gorffen yn dda yn y gornel dde ar ymwelwiad cyntaf y Gwyddelod i ddau ar hugain y Scarlets.

Mewn hanner cyntaf gwael cafwyd un fflach o gyffro wrth i’r tîm cartref sgorio gyda symudiad gwych dri munud cyn yr egwyl. Liam Williams a groesodd am y cais ond roedd llawer o’r diolch yn ddyledus i ddwylo da y brodyr Davies, Jonathan a James, i greu’r cyfle i’r asgellwr.

Cymerodd Rhys Patchell y cyfrifoldeb o gicio at y pyst gan ychwanegu’r trosiad at y cais.

Yn anffodus i’r Scarlets, er mai honno oedd cic lwyddiannus gyntaf yr hanner, nid honno oedd yr olaf gan i Jack Carty gicio Connacht ar y blaen yn y munud olaf, 7-8 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Gwaethygodd y glaw yn ystod yr egwyl a fu dim newid i’r sgôr-fwrdd tan chwarter awr o ddiwedd y gêm.

Roedd Liam Williams wedi cael ei atal gan dacl wych Tiernan O’Halloran ddau funud ynghynt ond doedd neb yn gallu stopio’r cefnwr rhag croesi am ei ail gais ef ac ail ei dîm wedi i’r bêl dasgu yn ffodus braidd allan o sgrym bump.

Llwyddodd Patchell gyda throsiad anodd o’r ystlys cyn ychwanegu gôl adlam o flaen y pyst yn fuan wedyn i roi dwy sgôr rhwng y ddau dîm gyda llai na deg munud i fynd.

Roedd hynny’n ddigon o fantais i Fois y Sosban wrth iddynt ddal eu gafael yn gyfforddus i gofnodi buddugoliaeth gyntaf y tymor.

.

Scarlets

Ceisiau: Liam Williams 36’, 66’

Trosiadau: Rhys Patchell 37’, 66’

Gôl Adlam: Rhys Patchell 71’

.

Connacht

Cais: Niyi Adeolokun 22’

Cic Gosb: Jack Carty 39’