Zebre 21–23 Gleision

Dim ond dau bwynt oedd ynddi yn y diwedd ond mae dechrau da’r Gleision i’r tymor yn y Guinness Pro12 yn parhau wedi iddynt drechu Zebre yn y Stadio Sergio Lanfranchi brynhawn Sadwrn.

Dechreuodd y rhanbarth o Gymru’r gêm gyda thair buddugoliaeth allan o dair ac roedd hi’n ymddangos eu bod yn mynd i ychwanegu pedwaredd yn gymharol gyfforddus wrth iddynt sefydlu deuddeg pwynt o fantais yn gynnar yn yr ail hanner. Yr Eidalwyr a orffennodd orau serch hynny a chael a chael oedd hi yn y diwedd.

Cyfnewidiodd Carlo Canna a Steve Shingler gic gosb yr un yn y munudau agoriadol cyn i’r mewnwr cartref, Guglielmo Palazzani, groesi am gais cyntaf y gêm.

Tarodd y Gleision yn ôl, gyda chic gosb arall i ddechrau ac yna gyda chais i’r asgellwr, Blaine Scully, wedi gwaith da gan y blaenwyr.

Rhoddodd trosiad Shingler yr ymwelwyr bum pwynt ar y blaen cyn i Matthew Morgan gasglu cic Cory Allen i groesi am ail gais ei dîm ac ymestyn y fantais i ddeg pwynt.

Roedd Zebre yn ôl o fewn sgôr ar yr egwyl diolch i dri phywnt Edoardo Padovani ond newidiodd hynny yn gynnar yn yr ail gyfnod wrth i Tom James garmlamu drosodd am drydydd cais yr ymwlewyr.

Wnaeth Zebre ddim rhoi’r ffidl yn y to gan daro nôl gyda chais yr un i Guilio Bisegni a Giovanbattista Venditti yn y chwarter olaf.

Yn ffodus i’r Gleision, chafodd yr un o geisiau’r Zebre eu trosi a daliodd y Cymry eu gafael i ennill y gêm o ddau bywnt.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision i’r ail safle yn nhabl y Pro12 gyda dim ond gwahaniaeth pwyntiau yn eu gwahanu hwy ac Ulster ar y brig.

.

Zebre

Ceisiau: Guglielmo Palazzani 11’, Guilio Bisegni 61’, Giovanbattista Venditti 74’

Ciciau Cosb: Carlo Canna 3’, Edoardo Padovani 40’

Cardiau Melyn: Oliviero Fabiani 26’, Federico Ruzza 42’

.

Gleision

Ceisiau: Blaine Scully 27’, Matthew Morgan 35’, Tom James 45’

Trosiadau: Steve Shingler 28’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 7’, 22’

Cardiau Melyn: Josh Turnbull 29’, Rhys Gill 50’