Leinster 31–19 Gweilch

Collodd y Gweilch am y tro cyntaf y tymor hwn yn y Guinness Pro12 nos Wener wrth iddynt ymweld â’r RDS i herio Leinster.

Sicrhaodd y Gwyddelod y pwynt bonws gyda phedwerydd cais yn gynnar yn yr ail hanner ac er i’r Gweilch frwydro nôl yn dda wedi hynny, rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.

Hanner Cyntaf

Roedd Leinster eisoes ar y blaen diolch i gic gosb gynnar Johnny Sexton pan groesodd Josh van der Flier am gais cyntaf y tîm cartref hanner ffordd trwy’r hanner. Hyrddiodd y blaenasgellwr drosodd o dan y pyst wedi cyfnod hir o bwyso, 10-0 y sgôr wedi trosiad Sexton.

Cafwyd ymateb da gan y Gweilch ac roedd angen tacl dda gan Isa Nacewa i atal Jeff Hassler rhag cwblhau symudaid tîm da i’r ymwelwyr.

Roedd Nacewa yn ei chanol hi eto ychydig funudau’n ddiweddarach, yn derbyn tacl y tro hwn, un uchel a arweiniodd at gerdyn melyn i brop y Gweilch, Dimitri Arhip.

Manteisiodd y Gwyddelod bron yn syth, yn cael cais cosb wedi i sgrym bump gael ei throelli a’i dymchwel gan y Gweilch.

Yna, gyda Arhip yn barod i ddychwelyd i’r cae fe ddewisodd y Cymry wrthymosod o gysgod pyst eu hunain a chawsant eu cosbi gan Leinster wrth iddynt ddwyn y bêl ar y llinell hanner a chreu cais yn y pen draw i Sexton.

Trosodd y maswr ei gais ei hun, 24-0 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Roedd pwynt bonws Leinster yn ddiogel wedi pum munud o’r ail hanner diolch i ail gais van der Flier, seren y gêm yn taro’r lein ar ongl dda i dderbyn pas Sexton cyn ochr-gamu Dan Biggar i sgorio.

Roedd y Gweilch 31 pwynt ar ei hôl hi wedi trosiad Sexton ond fe wnaethant gêm ohoni yn yr hanner awr olaf.

Croesodd Ben John am gais cyntaf yr ymwelwyr ar yr asgell chwith yn dilyn cyfnod hir o bwyso yn y dau ar hugain.

Tro’r Gweilch oedd hi i chwarae yn erbyn pedwar dyn ar ddeg yn y deg munud olaf yn dilyn cerdyn melyn i Sexton, ac fe fanteisiodd yr ymwelwyr gyda dau gais arall.

Croesodd Dafydd Howells i ddechrau cyn i Sam Davies amseru ei bas yn berffaith i roi James King drosodd o dan y pyst.

Roedd pum munud ar ôl o hyd wedi hynny a dau bwynt bonws o fewn cyrraedd y Gweilch ond llwyddodd Leinster i reoli’r gêm yn effeithiol yn y munudau olaf wrth i’r Cymry orfod gadael yn waglaw.

.

Leinster

Ceisiau: Josh van der Flier 18’, 45’, Cais Cosb 33’, Johnny Sexton 40’

Trosiadau: Johnny Sexton 20’, 34’, 40’, 47’

Cic Gosb: Johnny Sexton 5’

Cerdyn Melyn: Johnny Sexton 69’

.

Gweilch

Ceisiau: Ben John 53’, Dafydd Howells 71’, James King 74’

Trosiadau: Dan Biggar 72’, 74’

Cerdyn Melyn: Dimitri Arhip 27’