Gweilch 64–10 Treviso

Mae dechrau perffaith y Gweilch i’r tymor yn y Guinness Pro12 yn parhau wedi iddynt chwalu Treviso ar y Liberty nos Sadwrn.

Croesodd y tîm cartref am naw cais wrth iddynt ennill gyda phwynt bonws am y trydydd tro yn olynol ar ddechrau’r tymor newydd.

Hanner Cyntaf

Cic gosb yr un gan Sam Davies a Tommaso Allan oedd unig bwyntiau’r chwarter agoriadol ond dim ond mater o amser oedd hi cyn i’r Gweilch dorri’n rhydd.

Daeth eu cais cyntaf tua hanner ffordd trwy’r hanner pan fylchodd Ben John trwy’r canol cyn ochrgamu heibio’r dyn olaf i groesi o dan y pyst.

Sgoriodd Sam Parry ail gais y Gweilch wedi sgarmes symudol effeithiol cyn iddynt sicrhau’r pwynt bonws gyda dau gais arall cyn yr egwyl.

Daeth y cyntaf o’r rheiny wedi i Sam Davies amseru ei bas yn berffaith i Jeff Hassler a’r ail i Dan Evans wedi gwrthymosod da gan Dafydd Howells.

Gorffennodd Davies yr hanner gyda pump cic allan o bump, 31-3 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Chwaraeodd Treviso ran helaeth o’r ail hanner heb bymtheg dyn ar y cae yn dilyn cardiau melyn i Luca Bigi, Ian McKinley a Abraham Steyn ac roedd mwy o geisiau i’r Gweilch yn anochel braidd.

Dafydd Howells a gafodd y cyntaf o’r rheiny, yn gorffen yn acrobataidd yn y gornel chwith wedi dwylo da Davies ac Evans.

Cais cosb hallt a oedd y nesaf wedi tacl uchel McKinley ar Tom Habberfield, ac roedd y seithfed yn gais unigol gwych gan yr eilydd ifanc ar yr asgell, Keelan Giles.

Ma’afu Fia ac Alun Wyn Jones a gwblhaodd y sgorio o safbwynt y Gweilch ond roedd digon o amser am gais cysur hwyr i Treviso a Dean Budd, 64-10 y sgôr terfynol.

Does fawr o syndod efallai, wedi dechrau cystal i’r tymor, mai’r Gweilch sydd yn eistedd ar ben y domen yn y Pro12 gyda phymtheg pwynt o dair gêm.

.

Gweilch

Ceisiau: Ben John 22’, Sam Parry 29’, Jeff Hassler 35’, Dan Evans 37’, Dafydd Howells 46’, Cais Cosb 53’, Keelan Giles 62’, Ma’afu Fia 67’, Alun Wyn Jones 71’

Trosiadau: Sam Davies 23’, 30’, 36’, 38’, Dan Biggar 54’, 62’, 68’, 72’

Cic Gosb: Sam Davies 16’

.

Treviso

Cais: Dean Budd 80’

Trosiad: Ian McKinley 80’

Cic Gosb: Tommaso Allan 18’

Cardiau Melyn: Luca Bigi 50’, Ian McKinley 53’, Abraham Steyn 65’