Ulster 17–8 Scarlets

Colli fu hanes y Scarlets am y drydedd wythnos yn olynol wrth i’w dechrau siomedig i’r tymor yn y Guinness Pro12 barhau gyda cholled yn erbyn Ulster yn Ravenhill nos Wener.

Methodd Rhys Patchell gyda chynnig cynnar at y pyst i’r Scarlets cyn i Paddy Jackson lwyddo gyda dwy gic i sefydlu chwe pwynt o fantais i’r tîm cartef wedi chwarter awr.

Daeth y cais agoriadol i Ulster wedi deunaw munud. Louis Ludik a gwblhaodd y symudiad wrth i’r Gwyddelod wrthymosod yn effeithiol yn dilyn cic amddiffynnol Jonathan Davies.

Bu bron i Caig Gilroy ychwanegu ail gais ond cafodd ei atal gan dacl wych Liam Williams.

Chwaraeodd y Scarlets bum munud olaf yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i Jake Ball am ei drydedd trosedd o’r hanner, ond arhosodd y sgôr heb newid tan yr egwyl.

Ar wahân i gic gosb o droed Patchell fu dim newid i’r sgôr-fwrdd tan ddeg munud olaf yr ail hanner.

Adferodd Jackson un ar ddeg pwynt o fantais Ulster gyda chic gosb ond rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Scarlets gyda chais Will Boyde chwe munud o’r diwedd.

Roedd hi’n ymddangos fod pwynt bonws o leiaf ar y ffordd i Fois y Sosban felly ond cipwyd hwnnw oddi wrthynt gyda chais Iain Henderson ym munud olaf yr wyth deg, yr eilydd yn croesi wedi sgarmes symudol hynod effeithiol gan y tîm cartref.

Methodd Jackson y trosiad ond doedd fawr o ots, 19-8 y sgôr terfynol o blaid y Gwyddelod.

.

Ulster

Ceisiau: Louis Ludik 18’, Iain Henderson 79’

Ciciau Cosb: Jackson 9’, 16’ 70’

.

Scarlets

Cais: Will Boyde 74’

Cic Gosb: Rhys Patchell 47’

Cerdyn Melyn: Ball 35’