Connacht 11–32 Gweilch

Bydd y Gweilch yn dychwelyd o orllewin Iwerddon nos Sadwrn gyda buddugoliaeth a phwynt bonws o’u gêm gyda Connacht ar Faes Chwarae Galway.

Roedd hi’n gêm glos am gyfnodau hir ac roedd y Gweilch ar ei hôl hi gyda chwarter y gêm yn weddill. Ond roedd tri chais yn y deg munud olaf yn ddigon i sicrhau, nid yn unig buddugoliaeth, ond pwynt bonws hefyd i’r ymwelwyr o Gymru.

Hanner Cyntaf

Doedd dim i wahanu’r ddau dîm yn chwarter cyntaf y gêm wrth i’r maswyr, Sam Davies a Jack Carty, rannu cic gosb yr un.

Bu rhaid aros tan ddeuddeg munud cyn yr egwyl am y cais cyntaf a daeth hwnnw i’r Gweilch a Rhys Webb. Bylchodd yr wythwr, Tyler Ardron, o fôn sgrym bump ac roedd Webb ar ei ysgwydd i dderbyn y bêl a hyrddio drosodd, 3-10 y sgôr wedi trosiad Davies.

Cafodd Connacht gyfnod da wedi hynny a bu rhaid i’r Gweilch wneud dipyn o amddiffyn yn eu hanner eu hunain i gadw’r saith pwynt o fantais tan yr hanner.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda Connacht yn mwynhau meddiant yn hanner y Gweilch. Cawsant eu gwobrwyo gyda thri phywnt cynnar o droed Carty, ond ar y cyfan roedd y Gweilch yn ymdopi yn o lew.

Newidiodd hynny pan cafodd Ardron ei anfon i’r gell gosb am dacl uchel wrth i’r blaenasgellwr cartref, Eoin McKeon, fanteisio ar y gwagle i groesi am gais i’r tîm cartref. Methodd Carty y trosiad ond roedd ei dîm un pwynt ar y blaen.

Wnaeth y fantais honno ddim para yn hir cyn i Davies daro nôl gyda chic gosb i roi’r ymwelwyr o Gymru ddau bwynt ar y blaen gyda deunaw munud i fynd.

Ymestynnodd Ardron y fantais honno i saith pwynt gydag ail gais y Gweilch ddeg munud o ddiwedd yr wyth deg, yr wythwr yn croesi wedi gwaith da gan weddill ei bac.

Wedi goroesi cyfnodau hir o bwyso gan Connacht, dichon y byddai’r Gweilch wedi bod yn hapus i’r chwiban olaf gael ei chwythu wedi hynny. Roedd dau gais arall yn y deg munud olaf yn fonws yn wir ystyr y gair felly.

Croesodd Webb i ddechrau yn dilyn rhediad da Ben John, cyn i Jeff Hassler elwa o waith da Dan Evans i groesi am y pedwerydd cais holl bwysig ddau funud o’r diwedd.

Ychwanegodd Davies y ddau drosiad gan orffen y gêm gyda phedair cic lwyddiannus allan o bump, 11-32 y sgôr terfynol.

.

Connacht

Cais: Eoin McKeon 57’

Ciciau Cosb: Jack Carty 19’, 46’

.

Gweilch

Ceisiau: Rhys Webb 28’, 74’, Tyler Ardron 71’, Jeff Hassler 78’

Trosiadau: Sam Davies 30’, 75’, 79’

Cic Gosb: Sam Davies 5’, 62′

Cerdyn Melyn: Tyler Ardron 51’