Caeredin 20–9 Scarlets

Collu fu hanes y Scarlets am yr ail benwythos yn olynol yn y Guinness Pro12 wrth iddynt deithio i Murrayfield i wynebu Caeredin nos Wener.

Roedd dau gais yn hwyr yn yr hanner cyntaf yn ddigon i’w hennill hi i’r Albanwyr, a thair cic gosb o droed Rhys Patchell oedd unig bwyntiau’r Cymry.

Tri phwynt gan faswr y Scarlets oedd pwyntiau cyntaf y noson ond buan iawn yr oedd Duncan Weir wedi taro nôl gyda chic gosb i Gaeredin.

Cyfnewidiodd y ddau faswr gic gosb yr un eto cyn i’r tîm cartref orffen yr hanner yn gryf. Croesodd yr asgellwr, Mike Allen, am gais cyntaf y gêm cyn i’r wythwr, Magnus Bradbury, ychwanegu ail yn fuan wedi i Jake Ball gael ei anfon i’r gell gosb i’r Scarlets.

Llwyddodd Weir gyda’r ddau drosiad ac roedd ei dîm bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen wrth droi.

Wedi gorffen yr hanner cyntaf gyda chais, fe anfonwyd Bradbury i’r gell gosb ym munud cyntaf yr ail hanner. Prin yr oedd ef wedi dychwelyd i’r cae cyn i’r canolwr cartref, Phil Burleigh, gael ai anfon am ddeg munud ar oddi ar y cae.

Ond er chwarae gydag un dyn yn fwy am fwy na deg munud o’r ail hanner, ar wahân i un gic gosb gan Patchell, methodd y Scarlets â manteisio.

Bu rhaid iddynt ddychwelyd i orllewin Cymry heb hyd yn oed bwynt bonws felly gan obeithio am well hwyl arni wrth groesawu Glasgow i Barc y Scarlets yr wythnos nesaf.

.

Caeredin

Ceisiau: Mike Allen 32, Magnus Bradbury 40’

Trosiadau: Duncan Weir 34’, 40’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 18’, 25’

Cardiau Melyn: Magnus Bradbury 41’, Phil Burleigh 52’

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 12’, 28’,53’

Cerdyn Melyn: Jake Ball’