Munster 23–24 Gleision

Mae dechrau da y Gleision i’r tymor yn y Guinness Pro12 yn parhau wedi i gais hwyr Dan Fish ennill y gêm iddynt yn erbyn Munster ar Barc Musgrave nos Wener.

Rhoddodd dau gais hanner cyntaf Tom James fantais i’r ymwelwyr ar yr egwyl. Ond bu rhaid iddynt amddiffyn yn dda yn yr ail hanner wrth i Munster daro nôl yn gryf ac roedd angen cais hwyr Fish i gipio’r fuddugoliaeth yn ôl yn y munudau olaf.

Hanner Cyntaf

Cafodd y Gleision ddechrau perffaith i’r noson yng Nghorc wrth i James groesi am gais unigol da wedi dim ond saith munud

Rhoddodd trosiad Gareth Anscombe yr ymwelwyr saith pwynt ar y blaen ond roedd y Gwyddelod yn gyfartal o fewn dau funud wedi cais Andrew Conway. Manteisiodd Darren Sweetman ar amddiffyn gwael i gasglu cic cyn dadlwytho i Conway am gais syml.

Ychwanegodd Ian Keatley y trosiad cyn i Anscombe ac yntau gyfnewid cic gosb yr un wrth iddi aros yn agos.

Yr ymwelwyr o Gymru a oedd ar y blaen wrth droi serch hynny diolch i ail gais James, yr asgellwr yn manteisio ar fylchiad crefftus ei ganolwr, Ray Lee-Lo, y tro hwn. 10-17 y sgôr wedi trosiad Anscombe.

Ail Hanner

Roedd Munster yn well wedi’r egwyl ac yn llawn haeddu cau’r bwlch gyda chic gosb Keatley wedi chwarter awr.

Parhau i bwyso a wnaeth y Gwyddelod wedi hynny ac er i’r Gleision amddiffyn yn dda am gyfnod ar eu llinell gais eu hunain fe lwyddodd yr eilydd brop, Dave Kilcoyne, hyrddio drosodd toc wedi’r awr.

Rhoddodd trosiad Keatley y tîm cartref dri phwynt ar y blaen ond wnaeth y Gleision ddim rhoi’r ffidl yn y to.

Deuddeg munud o’r wyth deg a oedd yn weddill pan groesodd Fish am y cais holl bwysig wedi gwrthymosodiad gwych gan Matthew Morgan, Lee-Lo a Lloyd Williams.

Ychwanegodd Steve Shingler y trosiad ac er i gic gosb Keatley gau’r bwlch i un pwynt fe ddaliodd y Gleision eu gafael ar y fantais i gofnodi buddugoliaeth dda oddi cartref.

Tasg anodd arall fydd yn eu haros wrth iddynt ddychwelyd i Barc yr Arfau yr wythnos nesaf i groesawu Glasgow i’r brifddinas.

.

Munster

Ceisiau: Andrew Conway 9’, Dave Kilcoyne 62’

Trosiadau: Ian Keatley 10’, 62’

Ciciau Cosb: Ian Keatley 29’, 55’, 72’

.

Gleision

Ceisiau: Tom James 7’, 35’, Dan Fish 68’

Trosiadau: Gareth Anscombe 8’, 36’, Steve Shingler 69’

Cic Gosb: Gareth Anscombe 14’