Warren Gatland am fod yn bositif wrth fynd i Seland Newydd
Mae hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland wedi rhybuddio’r chwaraewyr a’r staff cynorthwyol sy’n gobeithio mynd ar y daith i Seland Newydd na ddylen nhw fentro camu ar yr awyren haf nesaf oni bai eu bod nhw’n credu y gallan nhw guro’r Crysau Duon.

Cyhoeddodd Gatland ei rybudd wrth iddo gynnal cynhadledd i’r wasg yng Nghaeredin yn cadarnhau ei benodiad ar gyfer y taith fis Mehefin a Gorffennaf nesaf.

Bydd y Llewod yn herio’r Crysau Duon mewn tair gêm brawf yn ystod taith 10 gêm, ac fe fydd yn cael blwyddyn o seibiant o’i rôl fel hyfforddwr Cymru er mwyn canolbwyntio ar y daith.

Daeth cadarnhad heddiw mai’r is-hyfforddwr Rob Howley fydd yng ngofal tîm Cymru am y flwyddyn.

Dywedodd Gatland: “Os oes yna bobol sy’n credu hynny (na allan nhw ennill), yn chwaraewyr neu’n staff cynorthwyol yna dylen nhw godi eu llaw nawr a pheidio â mynd ar yr awyren.

“Ry’n ni am adeiladu tîm sy’n gallu bod yn llwyddiannus.

“Fyddwn i ddim yma oni bai ’mod i’n credu y gallwn ni fynd i Seland Newydd ac ennill.”

Dywedodd Gatland ei fod yn freintiedig ar ôl derbyn y “swydd fwyaf yn y byd rygbi ac yn erbyn y gwrthwynebwyr gorau”.

Dydy hi ddim yn glir eto pwy fydd yn cael mynd fel rhan o dîm cynorthwyol Gatland, a does dim disgwyl cyhoeddiad tan Ragfyr 7.

Bydd Gatland yn teithio i Seland Newydd yfory i ddechrau ar y trefniadau, fydd yn cynnwys gwylio’r gêm rhwng Seland Newydd a’r Ariannin yn Hamilton, ei dref enedigol.