Rob Howley fydd hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru wrth i Warren Gatland gymryd blwyddyn allan o’i rôl i ganolbwyntio ar y Llewod.

Daeth cadarnhad amser cinio mai Gatland fydd hyfforddwr y Llewod ar gyfer eu taith i Seland Newydd haf nesaf.

Mae ei waith yn dechrau ddydd Iau, wrth iddo ddychwelyd i’w famwlad i ddechrau ar y trefniadau ar gyfer y daith.

Camodd yr is-hyfforddwr Howley i’r rôl bedair blynedd yn ôl pan gafodd Gatland ei benodi’r tro diwethaf.

Bydd Howley yn gyfrifol am hyfforddi’r tîm am bedair gêm yn yr hydref, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a thaith i Ynysoedd y De haf nesaf.

Y tro diwethaf, collodd Cymru eu holl gemau yn yr hydref o dan arweiniad Howley, ond fe gipion nhw dlws y Chwe Gwlad.