Gleision 34–16 Caeredin

Cafodd y Gleision ddechrau da i’r tymor newydd yn y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth bwynt bonws gartref yn erbyn Caeredin ar Barc yr Arfau nos Sadwrn.

Sgoriodd y Gleision ddau gais yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu dau arall yn chwarter olaf y gêm i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus mewn amodau anodd yn y brifddinas.

Hanner Cyntaf

Daeth pwyntiau cyntaf y gêm o droed maswr newydd yr ymwelwyr, Duncan Weir, wedi dim ond pedwar munud.

Y tîm cartref serch hynny a gafodd y cais cyntaf pan groesodd eu maswr newydd hwythau; Steve Shingler yn sgorio yn dilyn ffug bas daclus. Trosodd cyn chwaraewr y Scarlets ei gais ei hun i roi’r Gleision bedwar pwynt ar y blaen.

Roedd Caeredin yn ôl ar y blaen wedi chwarter awr; y canolwr, Solomoni Rasolea, yn croesi wedi gwaith caled y blaenwyr, 7-10 y sgôr wedi trosiad Weir.

Cyfnewidiodd Weir a Shingler dri phwynt yr un wedi hynny cyn i ail gais ddod i’r Gleision saith munud cyn yr egwyl. Cais Cosb oedd hwnnw a chafodd Jamie Ritchie ei anfon i’r gell gosb am ddymchwel y sgarmes symudol cyn i Shingler drosi’r ddau bwynt syml o flaen y pyst.

Cafodd Weir ddau gyfle i gau’r bwlch gyda chiciau cosb cyn yr egwyl ond methodd y ddwy wrth i’r Gleision gadw eu pedwar pwynt o fantais.

Ail Hanner

Cic gosb yr un gan Shingler a Weir oedd unig bwyntiau hanner cyntaf yr ail hanner wrth i’r glaw cynyddol ei gwneud hi’n anodd chwarae gêm agored.

Fe lwyddodd y Gleision i wneud yn union hynny yn y chwarter olaf serch hynny gan sgorio dau gais arall i sicrhau pwynt bonws yn ogystal â buddugoliaeth.

Daeth trydydd cais y tîm cartref ar yr awr wrth i’r wythwr profiadol, Nick Williams, hyrddio drosodd ar ei ymddangosiad cyntaf, bydd hwn yn ffefryn gyda thorf Parc yr Arfau heb os.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel wyth munud o ddiweth yr wyth deg pan sylwodd y mewnwr, Tomos Williams, ar fwlch enfawr wrth fôn ryc i groesi am sgôr syml.

Roedd Gareth Anscombe ar y cae erbyn hyn a llwyddodd yntau i drosi y ddau gais olaf wrth i’r Gleision ennill yn gyfforddus yn y diwedd,  34-16 y sgôr terfynol.

.

Gleision

Ceisiau: Steven Shingler 9’, Cais Cosb 33’, Nick Williams 61’, Tomos Williams 72’

Trosiadau: Steven Shingler 10’, 34’, Gareth Anscombe 63’, 73’

Ciciau Cosb: Steven Shingler 28’, 45’

.

Caeredin

Cais: Solomoni Rasolea 16’

Trosiad: Duncan Weir 17’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 4’, 20’, 46’

Cerdyn Melyn: Jamie Ritchie 33’