Gweilch 59–5 Zebre

Cafodd y Gweilch ddechrau da i’r tymor newydd yn y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth gyfforddus gartref yn erbyn Zebre nos wener.

Sicrhaodd y Cymry’r pwynt bonws cyn hanner amser ar y Liberty gan sgorio wyth cais yn y broses, tri o’r rheiny i’r bachwr, Sam Parry.

Hanner Cyntaf

Roedd Sam Davies eisoes wedi cicio pwyntiau cyntaf y tymor i’r Gweilch cyn i gais cynnar Sam arall, Parry, ymestyn y fantais.

Ychwanegodd Lloyd Ashley ail gais i’r tîm cartref yn fuan wedyn yn dilyn gwaith da gan Ashley Beck yng nghanol cae. Beck ei hun a gafodd y trydydd cais yn gwingo ei ffordd trwy amddiffyn gwan Zebre.

Caeodd Tomasso d’Apice y bwlch gyda chais cyntaf yr Eidalwyr wedi hynny ond y Gweilch a gafodd air olaf yr hanner wrth i Parry sicrhau pwynt bonws i’w dîm gyda’i ail gais yn y deugain munud agoriadol.

Ychwanegodd Davies bedwerydd trosiad at ei dri throsiad ac un gic gosb flaenorol, 31-5 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Nid bob dydd y mae bachwyr yn sgorio hatric, ond dyna’n union a wnaeth Sam Parry saith munud wedi’r egwyl yn dilyn sgarmes symudol effeithiol arall gan y Gweilch.

Cyfle un o’r eilyddion i ymuno yn y hwyl oedd hi wedyn wrth i Ben John redeg ongl wych i dderbyn pas wrthol Sam Davies a chroesi o dan y pyst.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Zebre wrth i Tommaso Boni orfod treulio deg munud oddi ar y cae, yn gosb am droseddu cyson ei dîm. Sgoriodd y Gweilch seithfed cais yn ei absenoldeb, Dan Evans yn gwrthymosod a chicio’r bêl i lwybr Dafydd Howells am gais i’r eilydd.

Daeth cais olaf y Gweilch yn y munud olaf pan groesodd John am ei ail ef yn dilyn dadlwythiad taclus Justin Tipuric. Gorffennodd Davies gyda naw cic allan o naw wrth i’w dîm chwalu’r Eidalwyr o 59 pwynt i 5.

Taith i Galway i wynebu’r pencampwyr, Connacht, sydd yn aros y Gweilch yr wythnos nesaf.

.

Gweilch

Ceisiau: Sam Parry 7’, 39’, 47’, Lloyd Ashley 12’, Ashley Beck 24’, Ben John 59’, 79’, Dafydd Howells 75’

Trosiadau: Sam Davies 7’, 13’, 25’, 40’, 48’, 60’, 75’, 80’

Cic Gosb: Sam Davies 4’

.

Zebre

Cais: Tommaso d’Apice 34’

Cerdyn Melyn: Tommaso Boni 67’