Justin Tipuric
Mae Justin Tipuric yn nhîm y Gweilch wrth iddyn nhw deithio i Welford Road i herio Caerlŷr mewn gêm gyfeillgar heno.

Dyma’r ail waith yn unig i’r blaenasgellwr chwarae ers y Chwe Gwlad, ar ôl iddo chwarae un hanner y gêm gyfeillgar yn erbyn tîm rhyngwladol Gwlad Belg wythnos diwethaf pan gurodd y Gweilch 71-0.

Roedd wedi bod allan o’r gêm am fisoedd wedi iddo ddioddef cyfergyd yn erbyn yr Eidal tra’n chwarae i Gymru.

Hon yw gêm gyfeillgar ola’r Gweilch yr haf hwn cyn iddyn nhw ddechrau tymor newydd y Pro12 yn erbyn Zebre wythnos nesa.

Mae disgwyl i Gaerlŷr roi’r cyfle cyntaf i’w chwaraewr newydd ac asgellwr y Springboks, JP Pietersen, tra bod chwaraewyr rhyngwladol Lloegr Ben Youngs a Dan Cole hefyd yn debygol o chwarae.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy: “Cawsom wythnos wych allan yng Ngwlad Belg. Roedd bod gyda’n gilydd yn caniatáu i ni gael dyddiau hyfforddi hir gyda’r grŵp cyfan.

“Nos Wener yw’r cam nesaf i ni, ac rydym ni’n mynd i un o’r llefydd anoddaf ym myd rygbi Ewropeaidd. Mae’n amgylchedd a fydd bob amser yn profi unrhyw dîm ac maen nhw yn falch o’u record yno felly byddan nhw am wneud yn siŵr bod eu cefnogwyr yn mynd adref yn hapus.”

Tîm y Gweilch:

15 Dan Evans

14 Jeff Hassler

13 Ashley Beck

12 Josh Matavesi

11 Dafydd Howells

10 Sam Davies

9 Tom Habberfield (Capt)

1 Nicky Smith

2 Sam Parry

3 Dmitri Arhip

4 Lloyd Ashley

5 Rory Thornton

6 Joe Bearman

7 Justin Tipuric

8 Tyler Ardron

Eilyddion

16 Hugh Gustafson

17 Paul James

18 Rhodri Jones

19 Olly Cracknell

20 Rob McCusker

21 Matthew Aubrey

22 Luke Price

23 Ben John

– Keelan Giles

– Eli Walker

– Ma’afu Fia

– Gareth Thomas