Mae tîm rygbi’r gynghrair newydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru i bontio’r gêm amatur a phroffesiynol, ac fe fydd yn cael ei redeg mewn modd tebyg i’r Barbariaid.

Bydd tîm XIII y Llywydd yn gyfuniad o chwaraewyr amatur y Dragonhearts a chwaraewyr proffesiynol y tîm cenedlaethol llawn, ac fe fydd yn cael ei hyfforddi gan gyn-hyfforddwr dan 18 Cymru, Paul Emanuelli.

Byddan nhw’n chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Lionhearts Lloegr yn y Coed Duon ar Fedi 25.

Dywedodd Emanuelli: “Dyma fenter newydd wych gan Rygbi’r Gynghrair yng Nghymru.

“Nid yn unig y mae’n cael ei redeg fel tîm cynrychioladol ond fe fydd yn hybu pob ffurf ar gêm rygbi’r gynghrair yng Nghymru ac o ran cit, mae’n cael ei redeg yn debyg i’r Barbariaid.

“Roedden ni am greu cymysgedd, felly bydd y tîm yn gwisgo cit ymarfer a chrys Cymru ond yn ystod y gêm, byddan nhw’n gwisgo siorts a sanau eu clwb.”