Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi’r tîm fydd yn wynebu tîm rhyngwladol Gwlad Belg nos yfory.

Mae’r gem yn benllanw wythnos brysur i’r rhanbarth sydd hefyd wedi cynnwys cyfres o ddigwyddiadau datblygu rygbi i hybu’r gamp fel gwersyll hyfforddi wythnos o hyd a welodd 200 o bobl ifanc o bob rhan o Ewrop yn cymryd rhan.

Mae’r gem wedi ei threfnu oherwydd partneriaeth rhwng y Gweilch a ASUB Waterloo, un o glybiau rygbi mwyaf blaenllaw Gwlad Belg, sydd wedi bodoli ers 2014.

Mae tua 60 o glybiau rygbi amatur yng Ngwlad Belg, gyda mwy na 13,000 o chwaraewyr cofrestredig. Mae Gwlad Belg yn safle 23 yn y byd.

Mae tim y Gweilch yn cynnwys: Dafydd Howells, Tom Williams, Joe Thomas, Jonathan Spratt (Capt), Keelan Giles, Luke Price, Matthew Aubrey, Gareth Thomas, Hugh Gustafson, Rhodri Jones, Rhys Jones, Rory Thornton, Josh Cole, Justin Tipuric a Rob McCusker.

Eilyddion: Alex Dunham, Rowan Jenkins, Ma’afu Fia, Mitchell Walsh, Tyler Ardron, Joe Bearman, Tom Grabham, Josh Matavesi, Ashley Beck a Morgan Williams

Meddai Andrew Millward, rheolwr gyfarwyddwr y Gweilch “Mae rygbi’n gamp sy’n tyfu yn fyd-eang a bydd y berthynas yn ein cynorthwyo i gyflawni ein nod o aros yn rym yn y gêm Ewropeaidd tra hefyd yn helpu gyda datblygiad rygbi ledled Ewrop.

“Bydd y cyfnewid arbenigedd technegol yn galluogi pob parti i wella galluoedd trefniadol, masnachol a chystadleuol.

Mae’r gêm yn cael ei chwarae yn Stade du Pachy, Waterloo, a bydd y gic gyntaf am 19:30 amser lleol.