Dan Lydiate
Dan Lydiate fydd capten tîm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr b’nawn Sul yn Twickenham, wrth i’r tîm baratoi ar gyfer eu taith i Seland Newydd ymhen pythefnos.

Mae’r capten arferol, Sam Warburton, yn un o sawl chwaraewr gan gynnwys Justin Tipuric a Leigh Halfpenny fydd ddim ar y daith.

Mae prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi gwneud pum newid o’r tîm gollodd yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad dri mis yn ôl.

Bydd Scott Williams, Hallam Amos, Rhys Webb, Jake Ball a Ross Moriarty yn dychwelyd i’r tîm, gyda Moriarty’n hawlio’r crys rhif chwech a Lydiate yn symud draw i gymryd safle’r blaenasgellwr agored.

Pwysau hanes

Yn dilyn y gêm ddydd Sul fe fydd Cymru’n teithio i hemisffer y de ble fyddan nhw’n herio Seland Newydd mewn tair gêm brawf yn ystod mis Mehefin.

Nid yw Cymru wedi trechu’r Crysau Duon ers dros 60 mlynedd, ac maen nhw wedi chwarae’i gilydd 26 o weithiau ers hynny, y tro olaf yn 2014 pan gollodd y crysau cochion o 16-34.

Wrth gyhoeddi’i dîm fe ddywedodd Gatland ei bod hi’n bwysig herio tîm cryf fel Lloegr yn eu gêm baratoadol fel bod y bechgyn yn barod am yr her gyntaf fydd yn eu hwynebu ar 11 Mehefin.

“Pan ‘dych chi’n edrych ar deithiau haf o’r blaen a’r cynllunio ar gyfer Seland Newydd, roedden ni’n teimlo fod angen mwy o baratoi fel ein bod ni’n barod i gamu lan i’r dwysedd yna,” meddai’r hyfforddwr.

Tîm Cymru i wynebu Lloegr

Liam Williams, George North, Scott Williams, Jamie Roberts, Hallam Amos, Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Ross Moriarty, Dan Lydiate (capt), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Kristian Dacey, Gethin Jenkins, Rhodri Jones, Josh Turbull, James King, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Gareth Anscombe.

Tîm Lloegr

Mike Brown, Anthony Watson, Jonathan Joseph, Luther Burrell, Marland Yarde, George Ford, Ben Youngs; Matt Mullan, Dylan Hartley (capt), Dan Cole, Joe Launchbury, Courtney Lawes, Temiana Harrison, James Haskell, Jack Clifford.

Eilyddion: Tommie Taylor, Ellis Genge, Paul Hill, Dave Attwood, Matt Kvesic, Danny Care, Ollie Devoto, Elliott Daly.