Mae’r Gweilch wedi cadarnhau eu bod yn disgwyl i Hanno Dirksen fethu dechrau’r tymor nesaf ar ôl iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Cafodd yr asgellwr 25 oed yr anaf yn ystod y fuddugoliaeth dros y Gleision ar Ddydd y Farn yn Stadiwm Principality ym mis Ebrill.

Ag yntau wedi anafu cymalau’r ACL yn ei ben-glin, mae disgwyl y gallai fod allan am fisoedd.

“Mae Hanno wedi cael llawdriniaeth i ailadeiladu’i ACL yr wythnos diwethaf,” cadarnhaodd Rheolwr Perfformiad y Gweilch, Chris Towers.

“Bydd hynny’n golygu cyfnod hir o wella fydd yn cynnwys dechrau’r tymor nesaf cyn i ni allu edrych ar ddyddiadau mwy penodol ble gallai ddychwelyd.”

Tymor diwethaf fe chwaraeodd Dirksen 17 o gemau dros y Gweilch, gan sgorio chwech o geisiau.

Fe orffennodd y rhanbarth yn wythfed yn y Pro12, gan olygu mai yng Nghwpan Her Ewrop yn hytrach na Chwpan Pencampwyr Ewrop y byddan nhw’n chwarae’r tymor nesaf.