Bradley Davies (llun: David Davies/PA)
Mae’r Gweilch wedi cadarnhau y bydd clo Cymru Bradley Davies yn ymuno â’r rhanbarth y tymor nesaf.

Bydd y chwaraewr 29 oed yn gadael Wasps yn Lloegr ar ddiwedd y tymor, gan ddychwelyd i Gymru ar gytundeb deuol gyda’r Undeb Rygbi.

Fe fydd cytundeb y clo yn para tair blynedd gyd nes Cwpan Rygbi’r Byd yn Siapan yn 2019.

Yr wythnos diwethaf fe gafodd Davies, sydd â 54 cap dros Gymru, ei enwi yn y garfan genedlaethol fydd yn teithio i hemisffer y de i herio Seland Newydd fis nesaf.

Cyfle i weithio gydag Alun Wyn

Fe dreuliodd Bradley Davies naw mlynedd gyda’r Gleision cyn symud i Wasps yn 2014, ond fe ddywedodd y byddai symud i’r Gweilch yn gyfle iddo weithio ar ei gêm gyda chlo arall Cymru.

“Rydw i’n edrych ymlaen at ymuno â’r Gweilch, fe fydd hi’n ddechrau newydd i mi,” meddai.

“Mae gan y rhanbarth uchelgais fawr a dw i eisiau bod yn rhan o hynny.

“Bydd hi’n grêt gweithio gyda phobol fel Alun Wyn Jones yn ogystal â’r chwaraewyr ail reng ifanc o Gymru sydd gyda’r rhanbarth.

“Dydw i ddim yn dychwelyd i Gymru er mwyn ymddeol, dw i eisiau parhau i wthio fy hun ac fe fydd y cytundeb deuol a’r Gweilch yn fy helpu i wneud hynny.”