Caeredin 17–21 Gleision

Gorffennodd y Gleision y tymor yn seithfed yn nhabl y Guinness Pro12 ar ôl trechu Caeredin ym Murrayfield brynhawn Sadwrn.

Doedd gan y Gleision, yn wahanol i Gaeredin, ddim gobaith o orffen yn y chwech uchaf cyn y gêm, ond llwyddodd y Cymry i orffen y tymor yn gadarnhaol gyda buddugoliaeth dda.

Aeth Caeredin ar y blaen wedi chwarter awr o chwarae pan groesodd y blaenasgellwr, Hamish Watson, yn y gornel, cyn i’r canolwr, Matt Scott, ychwanegu’r ail yn fuan wedyn.

Tarodd Ray Lee-Lo yn ôl i’r Gleision wedi hanner awr, y canolwr yn gorffen yn dda allan ar y chwith, ond ymestynnodd Tom Brown fantais yr Albanwyr gyda thrydydd cais ei dîm ddau funud cyn yr egwyl.

Wedi ugain munud di sgôr ar ddechrau’r ail hanner fe darodd y Gleision yn ôl gyda dau gais mewn tri munud. Daeth y cyntaf i’r clo, Cameron Dolan, a’r ail i’r canolwr, Garyn Smith.

Rhoddodd dau drosiad Gareth Asncombe bedwar pwynt o fantais i’r Gleision ac fe ddaliodd yr ymwelwyr eu gafael tan y diwedd.

Y Gleision felly yw ail dîm gorau Cymru y tymor hwn, yn gorffen yn seithfed yny Pro12, un safle ac un pwynt uwch ben y Gweilch.

.

Caeredin

Ceisiau: Hamish Watson 15’, Matt Scott 19’, Tom Brown 38’

Trosiad: Jason Tovey 19’

.

Gleision

Ceisiau: Rey Lee-Lo 30’, Cameron Dolan 62’, Garyn smith 65’

Trosiadau: Gareth Anscombe 31’, 63’, 67’