Mike Phillips
Bydd Mike Phillips chwarae yn Lloegr y tymor nesaf ar ôl arwyddo cytundeb gyda Sale.

Mae’r mewnwr 33 mlwydd oed wedi chwarae dros Lanelli, Caerdydd, Y Gweilch, Bayonne a’i glwb presennol, Racing 92.

Mae’n debygol o fod yng ngharfan y tîm o Baris yn rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop yr wythnos nesaf cyn symud i Loegr.

Enillodd Mike Phillips 94 cap dros Gymru yn ystod ei yrfa ryngwladol a phump i’r Llewod yn 2009 a 2013.