Dreigiau 20–34 Scarlets

Y Scarlets aeth â hi yn yr ail gêm rhwng y rhanbarthau Cymreig yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Roedd angen dau bwynt ar y Scarlets i sicrhau lle yn chwech uchaf y Guinness Pro12 a buddugoliaeth i gadw eu gobeithion o gyrraedd y pedwar uchaf yn fyw wrth iddynt herio’r Dreigiau. Llwyddodd Bois y Sosban gyda’r ddwy dasg wrth i gais hwyr Gareth Davies sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws i’r gwŷr o’r gorllewin.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Scarlets ar dân, yn rhedeg y bêl o’u hanner eu hunain ac yn sgorio dau gais yn y chwarter awr agoriadol.

Croesodd Scott Williams wedi dim ond deg munud o’i gêm gyntaf wedi anaf hir yn dilyn bylchiad Michael Collins. Ychwanegodd Steve Shingler yr ail wrth hyrddio drosodd o dan y pyst bedwar munud yn ddiweddarach ac roedd Bois y Sosban bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen diolch i ddau drosiad Shingler hefyd.

Wnaeth y Dreigiau ddim cyfrannu llawer i’r chwarter cyntaf ond roeddynt yn ôl yn y gêm yn fuan wedi hynny diolch i gais Adam Warren. Tarodd Rynard Landman gic Shingler i lawr cyn cicio’r bêl ymlaen i gyfeiriad y pyst lle llwyddodd Warren i dirio.

Cafwyd chwarter awr olaf digon blêr i’r hanner gyda’r ddau dîm yn ildio ciciau cosb. Cyfnewidiodd Shingler ac Angus O’Brien chwe phwynt yr un wrth i’r Scarlets aros saith pwynt ar y blaen, 13-20 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Dechreuodd y Scarlets yr ail hanner un dyn i lawr yn dilyn cerdyn melyn Peter Edwards yn hywr yn yr hanner cyntaf, ond y pedwar dyn ar ddeg a gafodd gais cyntaf yr ail hanner, Steff Evans yn croesi wedi i’w dîm wrthymosod o’u hanner eu hunain.

Rhoddodd trosiad Shingler bedwar pwynt ar ddeg rhwng y timau ond rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Dreigiau ddeuddeg munud o’r diwedd pan groesodd Adam Hughes am gais, yr allsgellwr yn gorffen yn daclus wedi rhediad da Carl Meyer.

Saith pwynt oedd ynddi wedi trosiad O’Brien ond roedd, nid yn unig y fuddugoliaeth, ond y pwynt bonws hefyd, yn ddiogel i’r Scarlets pan sgoriodd Davies bum munud o’r diwedd, yr eilydd fewnwr yn ffugio cyn ymestyn at y gwyngalch i sgorio. Ychwanegodd Shingler y trosiad, 20-34 y sgôr terfynol.

Y Tabl

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Scarlets yn bumed yn nhabl y Pro12 ac yn sicrhau eu lle yn y chwech uchaf gan na all y Gweilch na Chaeredin eu dal bellach. Mae’r pedwar uchaf a’r rownd gynderfynol o fewn cyrraedd hefyd gan eu bod un pwynt y tu ôl i Ulster.

Taith i Munster sydd yn aros y Scarlets ar y Sadwrn olaf tra mae Ulster yn teithio i’r Liberty i wynebu’r Gweilch; dwy gêm ddifyr iawn gan fod y Gweilch a Munster yn brwydro am y chweched safle. Gelynion y gorllewin yn gobeithio am ffafr gan ei gilydd ar y diwrnod olaf felly!

Mae’r Dreigiau yn aros yn ddegfed.

.

Dreigiau

Ceisiau: Adam Warren 23’, Adam Hughes 68’

Trosiadau: Angus O’Brien 23’, 69’

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 27’, 32’

.

Scarlets

Ceisiau: Scott Williams 9’, Steve Shingler 13’, Steff Evans 46’, Gareth Davies 75’

Trosiadau: Steve Shingler 10’, 14’, 47’, 77’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 25’, 30’

Cerdyn Melyn: Peter Edwards 37’