Gleision 27–40 Gweilch

Mae gobeithion main y Gweilch o chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf yn fyw o hyd yn dilyn buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn y Gleision yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Yn y gyntaf o ddwy gêm rhwng y rhanbarthau Cymreig yn y stadiwm cenedlaethol, roedd angen o leiaf buddugoliaeth ar y ddau dîm i gadw eu gobeithion o gyrraedd chwech uchaf y Guinness Pro12 yn fyw tan y Sadwrn olaf.

Mae breuddwyd y Gleision drosodd wedi i ddau gais hwyr Rhys Webb gipio buddugoliaeth i’r Gweilch, ond diolch i’r fuddugoliaeth honno a phwynt bonws yn y broses, mae hi’n fathemategol bosib, er yn anhebygol, i’r Gweilch orffen yn chweched o hyd.

Hanner Cyntaf

Y Gweilch a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn y deg munud cyntaf ond y Gleision a gafodd bwyntiau cyntaf y gêm gyda chic gosb Gareth Anscombe.

Roedd angen pwynt bonws ar y Gweilch a doedd gan y tîm o’r gorllewin ddim diddordeb cicio at y pyst o dechrau’n deg. Cawsant eu gwobrwyo chwarter awr cyn yr egwyl wrth i James King groesi am y cais cyntaf ar ôl codi’r bêl o fôn y sgrym.

Rhoddodd trosiad Biggar y Gweilch bedwar pwynt ar y blaen ond gorffennodd y Gleision yr hanner yn gryf ac roedd angen tacl dda gan Owen Watkin i atal cais sicr i Ray Lee-Lo.

Dim cais i’r Gleision cyn yr egwyl felly ond hwy a oedd ar y blaen wrth droi diolch i ddwy gic gosb arall gan Anscombe yn neg munud olaf yr hanner.

Ail Hanner

Wedi deugain munud heb gais, fu dim rhaid i’r Gleision aros yn hir cyn sgorio un yn yr ail hanner, Aled Summerhill yn croesi yn y gornel wedi dim ond dau funud yn dilyn pas hir wych gan Anscombe. Methodd y maswr ag ychwanegu’r trosiad ond roedd y Gleision saith pwynt ar y blaen.

Ymestynnodd Anscombe y fantais i ddeg pwynt gyda chic gosb wedi hynny, 17-7 y sgôr gyda hanner awr i fynd.

Yn ôl y daeth y Gweilch serch hynny, yn taro nôl gyda dau gais cyflym i Hanno Dirksen. Manteisiodd yr asgellwr ar bas gelfydd Rynier Bernardo rhwng ei goesau ar gyfer y cyntaf, a diolchodd i Watkin am yr ail wrth i’r canolwr ddadlwytho iddo wedi i gic Webb adlamu’n garedig iddo. Methodd Biggar drosi’r cyntaf o’r ddau gais ond llwyddodd gyda’r ail ac roedd y Gweilch ddau bwynt ar y blaen.

Wnaeth hi ddim aros felly yn hir cyn i gais unigol da Josh Navidi a throsiad Anscombe roi’r Gleision yn ôl ar y blaen gyda deunaw munud i fynd.

Newidiodd y fantais eto ddeg munud o ddiwedd yr wyth deg pan drosodd Biggar wedi i Sam Underhill hyrddio drosodd am y cais a sicrhaodd y pwynt bonws i’r Gweilch.

Ildiodd Sam Parry gic gosb yn syth o’r ail ddechrau serch hynny ac roedd y Gleision ar y blaen unwaith eto wedi pumed cic gosb lwyddiannus Anscombe!

Dim ond pwynt ynddi felly gyda phum munud i fynd, roedd angen arwr ar y Gweilch, a Webb oedd hwnnw. Daeth y mewnwr o hyd i’r bwlch lleiaf posib wrth y lluman cornel i blymio drosodd am y cyntaf o’i ddau gais cyn ychwanegu un arall i ddiogelu’r fuddugoliaeth yn y munud olaf. Troswyd y ddau gais gan Biggar, 40-27 y sgôr terfynol yn dilyn ail hanner llawn cyffro.

Y Tabl

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch dros y Gleision i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12. Maent bedwar pwynt y tu ôl i Munster yn y chweched safle felly bydd angen buddugoliaeth bwynt bonws arall arnynt gartef yn erbyn Ulster yr wythnos nesaf os am unrhyw obaith o chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.

Mae’r Gleision ar y llaw arall bellach yn nawfed ac allan o gyrraedd y chwech uchaf.

.

Gleision

Ceisiau: James King 25’, Hanno Dirksen 54’, 58’, Sam Underhill 70’, Rhys Webb 75’, 79’

Trosiadau: Dan Biggar 26’, 60’, 71’, 76’, 80’

.

Gweilch

Ceisiau: Aled Summerhill 42’, Josh Navidi 63’

Trosiad: Gareth Anscombe 64’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 11’, 31’, 37’, 50’