Scott Williams
Fe fydd Scott Williams yn dychwelyd i dîm y Scarlets am y tro cyntaf ers bron i flwyddyn pan fyddan nhw’n herio’r Dreigiau yn Stadiwm y Principality prynhawn Sadwrn.

Dyw canolwr Cymru heb chwarae dros ei ranbarth ers y tymor diwethaf ar ôl cael anaf difrifol i’w ben-glin pan oedd i ffwrdd gyda thîm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd llynedd.

Mae’r pwysau ar y tîm o Lanelli i ennill er mwyn cadw’u gobeithion o orffen yn y pedwar uchaf yn fyw.

Fydd Tyler Morgan ddim ar gael i’r Dreigiau fodd bynnag ar gyfer yr ornest, sydd yn cael ei chwarae’n syth wedi i’r Gleision a’r Gweilch wynebu’i gilydd yng ngemau ‘Dydd y Farn’.

‘Gorffen yn gryf’

Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac ei fod yn hyderus fod gan ei dîm y gallu i sicrhau y byddan nhw’n cystadlu am y bencampwriaeth ar ddiwedd y tymor.

“Roedden ni yn y pedwar uchaf tan wythnos diwethaf, ac mae bod yno drwy’r tymor wedi bod yn destun balchder,” meddai.

“Rydyn ni wedi ennill pan mae angen i ni wneud. Rydyn ni eisiau gorffen y tymor yn gryf.”

Bydd y gêm rhwng y Dreigiau a’r Scarlets yn dechrau am 5.00yh, ac yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.

Tîm y Scarlets: Michael Collins, Liam Williams, Hadleigh Parkes, Scott Williams, Steff Evans, Steven Shingler, Aled Davies; Rob Evans, Ken Owens (capt), Samson Lee, Jake Ball, David Bulbring, Lewis Rawlins, James Davies, John Barclay

Eilyddion y Scarlets: Ryan Elias, Dylan Evans, Peter Edwards, Jack Condy, Morgan Allen, Gareth Davies, Aled Thomas, Gareth Owen

Tîm y Dreigiau: Carl Meyer, Adam Hughes, Adam Warren, Jack Dixon, Hallam Amos, Angus O’Brien, Charlie Davies; Phil Price, Elliot Dee, Brok Harris, Rynard Landman, Nick Crosswell, Lewis Evans (capt), Nic Cudd, Taulupe Faletau.

Eilyddion y Dreigiau: Rhys Buckley, Luke Garrett. Lloyd Fairbrother, Matthew Screech, Ed Jackson, Sarel Pretorius, Dorian Jones, Geraint Rhys Jones.