Mae hyd at 20 o chwaraewyr y Scarlets wedi bod yn dioddef o salwch wrth i’r tîm baratoi ar gyfer gêm allweddol yn erbyn Glasgow yn y Pro12 yfory.

Bu’n rhaid canslo sesiwn ymarfer ddoe oherwydd bod sawl un o’r chwaraewyr yn dioddef o boen stumog.

Dywedodd prif hyfforddwr y rhanbarth Wayne Pivac ei fod yn gobeithio y bydd y rhan fwyaf o’r cleifion wedi gwella erbyn y gêm, ac y byddai’r garfan yn ceisio ymarfer rhywfaint heddiw ac yfory.

Fe allai’r Scarlets orfod galw rhai chwaraewyr o glybiau Uwch Adran Cymru, ond mae gan ddau o’r clybiau sydd yn eu rhanbarth nhw, Cwins Caerfyrddin a Llanymddyfri, gemau cynderfynol yng Nghwpan Swalec dros y penwythnos.

‘Ddim yn ddelfrydol’

Mae Glasgow bellach wedi pasio’r Scarlets i gipio’r trydydd safle yn y Pro 12, ac fe fydd Bois y Sosban angen ennill ym Mharc y Scarlets fory er mwyn osgoi gweld Ulster, sydd yn bumed, yn cau’r bwlch arnyn nhw.

“Dyw hyn ddim yn ddelfrydol,” cyfaddefodd Pivac wrth siarad â’r wasg.

“Dyma’r tro cyntaf dw i wedi profi rhywbeth fel hyn, ond mae’r pethau yma’n digwydd a does dim yn eich synnu chi fel hyfforddwr pan d’ych chi wedi bod o gwmpas ers sbel.

“Mae’n rhaid i chi wastad gael Plan B a Phlan C, a dyna pam mae gennym ni garfannau mor fawr.”