Emyr Phillips (Llun: Y Scarlets)
Mae bachwr Cymru, Emyr Phillips, wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r Scarlets am ddwy flynedd arall.

Ar hyn o bryd mae’r blaenwr allan ag anaf i’w ben-glin, a does dim disgwyl iddo ddychwelyd nes y tymor nesaf. Ond gyda Kirby Myhill yn cyhoeddi ddoe y bydd yn gadael Parc y Scarlets ac yn symud i’r Gleision, mae prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac wedi croesawu’r ffaith bod un arall o’i fachwyr wedi penderfynu aros.

Fe ymunodd Phillips â’r Scarlets yn 2008 o glwb Llanymddyfri, ac ers hynny mae wedi chwarae dros y rhanbarth 126 o weithiau yn ogystal ag ennill tri chap dros Gymru.

Tymhorau rhwystredig

Mae sawl un o chwaraewyr eraill y Scarlets gan gynnwys Gareth Davies, Liam Williams, Scott Williams, Jake Ball a Samson Lee eisoes wedi arwyddo cytundebau newydd ar gyfer y tymor nesaf.

Fe fydd eraill fel Jonathan Davies, Rhys Patchell, Werner Kruger a Jonathan Evans yn ymuno â nhw yn yr haf, ac mae Emyr Phillips yn gobeithio bod yn holliach erbyn hynny er mwyn paratoi gyda nhw ar gyfer y tymor newydd.

“Mae’r tymhorau diwethaf wedi bod yn rhwystredig o ran anafiadau ond rydw i wrth fy modd mod i wedi arwyddo estyniad i fy nghytundeb er mwyn aros yma ym Mharc y Scarlets,” meddai’r chwaraewr 29 oed.

“Mae’r ben-glin yn gwella’n dda ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at allu ymarfer yn llawn gyda’r garfan wrth i ni baratoi ar gyfer dechrau tymor 2016/17.”