Mae’r Gleision wedi cadarnhau y byddan nhw’n arwyddo dau o flaenwyr y Scarlets ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd y clo George Earle a’r bachwr Kirby Myhill yn symud o Lanelli i Gaerdydd yn yr haf, gan ymuno â maswr y Scarlets Steven Shingler sydd hefyd yn symud i’r Gleision.

Ers ymuno â’r Scarlets yn 2012 mae Earle – gafodd ei eni yn Ne Affrica ond sydd bellach yn gymwys i chwarae dros Gymru – wedi chwarae 94 o weithiau dros y rhanbarth.

Mae Myhill ar y llaw arall wedi cynrychioli’r Scarlets a Llanelli drwy gydol ei yrfa, ac mae’r chwaraewr 24 oed eisoes wedi gwneud 71 ymddangosiad dros y tîm.

Wynebau cyfarwydd

“Rydw i wedi gweithio gyda George a Kirby o’r blaen felly dw i’n llwyr ymwybodol o’u gallu,” meddai prif hyfforddwr y Gleision, Danny Wilson, sydd yn gyn-hyfforddwr ar flaenwyr y Scarlets.

“Mae’r ddau yn broffesiynol iawn ac fe fyddan nhw nid yn unig yn ychwanegu at y garfan sydd gennym ni yn fan hyn ond hefyd at yr awyrgylch a’r diwylliant.”

Fe dalodd y ddau chwaraewr deyrngedau i’r Scarlets wrth gyhoeddi’r newyddion, gyda George Earle yn dweudbod symud i Lanelli wedi trawsnewid ei yrfa ac y byddai’n “trysori’r lle yma am weddill fy mywyd”.

Ychwanegodd Kirby Myhill ei fod yn hynod o falch o fod wedi gallu cynrychioli’i ranbarth genedigol ac y byddai’n gwneud popeth o nawr tan ddiwedd y tymor i sicrhau fod y Scarlets yn gorffen ym mhedwar uchaf y Pro12.