Scarlets 22–28 Gleision

Mae gobeithion y Gleision o orffen yn chwech uchaf y Guinness Pro12 a chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf yn fyw o hyd wedi buddugoliaeth dda oddi cartref ar Barc y Scarlets brynhawn Sadwrn.

Mae’r canlyniad yn gnoc i obeithion y Scarlets ar y llaw arall o orffen yn y pedwar uchaf a chyrraedd rownd gynderfynol y Pro12.

Hanner Cyntaf

Daeth pwyntiau cyntaf y prynhawn o droed maswr y Gleision, Gareth Anscombe, wrth i’r ymwelwyr gael y gorau o’r munudau agoriadol.

Dilynodd cais wedi deg munud wrth i’r Gleision wrthymosod o’u hanner eu hunain cyn i Lloyd Williams ganfod bwlch enfawr yn amddiffyn y Scarlets, 0-10 y sgôr wedi trosiad Anscombe.

Braidd yn ddi fflach a oedd y tîm cartref ond roeddynt yn y gêm o hyd hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i ddwy gic gosb o droed Dan Jones.

Y Gleision heb os a oedd y tîm gorau ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ym mhellach ar y blaen cyn yr egwyl diolch i ail gais. Dechreuodd Tom James wrthymosodiad arall o hanner y Gleision ac roedd yr asgellwr wrth law i orffen y symudiad hefyd.

Cyfnewidiodd Jones ac Anscombe gic gosb yr un wedi hynny, 9-18 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Cyfnewidiodd y ddau faswr dri phwynt yr un eto yn chwarter awr agoriadol yr ail hanner wrth i’r Gleision gadw bwlch o naw pwynt.

Roedd Bois y Sosban yn ôl o fewn pwynt wedi i Aled Thomas lwyddo gyda’i gynnig cyntaf ef at y pyst ar ôl dod i’r cae yn lle Jones.

Trosgais i Anscombe a oedd y pwyntiau nesaf wrth i’r ymwelwyr agor bwlch iach yn y sgôr unwaith eto. Manteisiodd y maswr ar waith da James i groesi am y cais cyn ychwanegu’r trosiad i roi tri phwynt ar ddeg rhwng y timau.

Sgoriodd John Barclay gais wedi i’r Scarlets gipio sgrym yn erbyn y pen, ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i’r Gleision ddal eu gafael er gwaethaf cerdyn melyn hwyr Josh Turnbull.

Mae Bois y Sosban yn aros yn drydydd yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad ac mae’r Gleision yn codi dros y Gweilch i’r wythfed safle i gadw eu gobeithion main o orffen yn y chwech uchaf yn fyw.

.

Scarlets

Cais: John Barclay 71’

Trosiad: Aled Thomas 72’

Ciciau Cosb: Dan Jones 15’, 18’, 30’, 47’, Aled Thomas 56’

.

Gleision

Ceisiau: Lloyd Williams 10’, Tom James 24’, Gareth Anscombe 63’

Trosiadau: Gareth Anscombe 12’, 64’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 9’, 37’

Cerdyn Melyn: Josh Turnbull 75’