Dreigiau Casnewydd Gwent 20–26 Gweilch

Roedd y Gweilch yn drech na’r Dreigiau yn y gêm rhwng y ddau ranbarth Cymreig yn y Guinness Pro12 ar Rodney Parade nos Wener.

Rheolodd yr ymwelwyr am rannau helaeth ond cael a chael oedd hi yn y diwedd wrth i’r Dreigiau wneud gêm ohoni yn y chwarter olaf.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gweilch yn gryf gan groesi am gais cyntaf y gêm wedi dim ond pedwar munud. Wedi sylfaen da gan y blaenwyr yn ardal y dacl, lledwyd y bêl i’r dyn sbâr ar yr asgell chwith, Jeff Hassler.

Gyda deg munud ar y cloc roedd y sgôr yn gyfartal diolch i gais da gan y tîm cartref. Ymosododd y Dreigiau o’u hanner eu hunain gyda Tyler Morgan yn ennill tir da cyn amseru ei bas i roi sgôr syml ar blât i Hallam Amos.

Pum pwynt yr un wedi deg munud felly ond roedd y Gweilch yn ôl ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gais Rhys Webb. Cafwyd ffug bas nodweddiadol gan y mewnwr wrth fôn y ryc cyn iddo ddangos ei gryfder i dirio yng nghanol pentwr o gyrff.

Treuliodd y Dreigiau ddeg munud gyda phedwar dyn ar ddeg wedi hynny yn dilyn cerdyn melyn i Rynard Landman am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol, ond y tîm cartref a sgoriodd unig bwyntiau’r cyfnod hwnnw, cic gosb o’r llinell hanner gan Carl Meyer.

Y Gweilch serch hynny a oedd y tîm gorau o hyd ac roeddynt ym mhellach ar y blaen erbyn hanner amser diolch i drydydd cais, Dan Evans yn sgorio yn y gornel wedi pas hir gywir Owen Watkin, 8-19 y sgôr wedi trosiad Biggar.

Ail Hanner

Roedd Gwŷr Gwent yn ôl yn y gêm yn gynnar yn yr ail hanner diolch i ail gais Amos, yr asgellwr yn dilyn ei gic ei hun cyn tirio cais unigol da.

Rhoddodd hynny’r tîm cartref yn ôl o fewn sgôr ond y Gweilch a gafodd y pwyntiau nesaf, Sam Underhill yn croesi am bedwerydd cais yr ymwelwyr i ymestyn y fantais a sicrhau’r pwynt bonws.

Wnaeth y Dreigiau ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn ôl ynddi eto ddeuddeg munud o’r diwedd diolch i drosgais Meyer, y cefnwr yn derbyn dad lwythiad Amos i groesi cyn trosi ei gais ei hun.

Cafodd y tîm cartref eu cyfnod gorau yn neg munud olaf yr wyth deg, ac heb fod yn y gêm am rannau helaeth, roedd ganddynt gyfle i’w hennill hi.

Ond nid felly oedd hi i fod wrth i amddiffyn y Gweilch ddal eu gafael ar y fantais fain. Pwynt bonws yr un i’r ddau dîm ond y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr o’r gorllewin, 20-26 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau yn ddegfed yn nhabl y Pro12 ac yn codi’r Gweilch dros y Gleision i’r wythfed safle. Gall y Gleision ddychwelyd i’r safle hwnnw gyda phwynt o’u gêm yn erbyn y Scarlets ddydd Sadwrn.

.

Dreigiau

Ceisiau: Hallam Amos 10’, 45’, Carl Meyer 68’

Trosiad: Carl Meyer 69’

Cic Gosb: Carl Meyer 29’

Cerdyn Melyn: Rynard Landman 21’

.

Gweilch

Ceisiau: Jeff Hassler 4’, Rhys Webb 19’, Dan Evans 40’, Sam Underhill 51’

Trosiadau: Dan Biggar 20’, 40’, 52’