Dim ond un newid y mae’r Scarlets wedi’i wneud i’w tîm i herio’r Gleision wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer ail ddarbi Gymreig y penwythnos yn y Pro12.

Fe fydd y ddau dîm yn herio’i gilydd ar Barc y Scarlets brynhawn Sadwrn am 3.00yp, a hynny ar ôl i’r Dreigiau a’r Gweilch chwarae nos Wener yn Rodney Parade.

Mae Samson Lee yn dod i mewn i dîm y Scarlets yn lle Peter Edwards wrth i Fois y Sosban barhau i frwydro am le yn y pedwar uchaf ar ddiwedd y tymor.

Dim ond dau newid sydd i dîm y Gleision, gyda Taufa’ao Filise a Matthew Rees yn dod i mewn yn y rheng flaen.

Brwydro am grys Cymru

Gyda Chymru’n teithio i Seland Newydd ar ddiwedd y tymor, mae prif hyfforddwr y Scarlets Wayne Pivac hefyd yn credu y bydd ambell chwaraewr yn awyddus i greu argraff ar Warren Gatland.

“Fe fydd hi’n ffyrnig o ran y brwydrau personol ar gyfer crysau Cymru, ac fe fydd chwaraewyr da yn wynebu’i gilydd ym mhob rhan o’r cae,” meddai Pivac.

“Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw’n chwarae’n dda ac yn sgorio tipyn o geisiau. Maen nhw’n ceisio dringo’r tabl a chyrraedd Ewrop.”

Tîm y Scarlets: Michael Collins, Steff Evans, Regan King, Hadleigh Parkes, DTH van der Merwe, Dan Jones, Gareth Davies; Rob Evans, Ken Owens (capt), Samson Lee, Jake Ball, David Bulbring, John Barclay, James Davies, Morgan Allen

Eilyddion y Scarlets: Kirby Myhill, Dylan Evans, Peter Edwards, George Earle, Maselino Paulino, Aled Davies, Aled Thomas, Gareth Owen

Tîm y Gleision: Rhys Patchell, Dan Fish, Garyn Smith, Rey Lee-Lo, Tom James, Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Gethin Jenkins (capt), Matthew Rees, Taufa’ao Filise, Josh Turnbull, James Down, Sam Warburton, Ellis Jenkins, Josh Navidi

Eilyddion: Kristian Dacey, Brad Thyer, Dillon Lewis, Jarrad Hoeata, Manoa Vosawai, Lewis Jones, Jarrod Evans, Aled Summerhill