Rodney Parade
Mae’r Gweilch wedi gwneud wyth newid i’w tîm nhw i wynebu’r Dreigiau yn Rodney Parade nos Wener wrth iddyn nhw geisio taro nôl ar ôl colli i’r Scarlets y penwythnos diwethaf.

Fe fydd Dan Biggar yn dychwelyd i dîm yr ymwelwyr, sydd yn debygol o fod heb Justin Tipuric am weddill y tymor, tra bod Dan Lydiate yn un o’r rhai sydd yn disgyn i’r fainc.

Dau newid sydd i dîm y Dreigiau, gydag Elliot Dee a Matthew Screech yn cymryd lle Thomas Rhys Thomas a Cory Hill.

Wythwr Cymru Taulupe Faletau fydd yn arwain y tîm cartref fel capten am y tro cyntaf yn ei yrfa, wrth iddo baratoi i chwarae yn Rodney Parade am y tro olaf cyn symud i Gaerfaddon yn yr haf.

Tymhorau siomedig

Mae’r Gweilch yn parhau yn y nawfed safle yn y Pro12 wrth i dymor siomedig i’r rhanbarth ddirwyn i ben.

Fe fydd Adam Beard yn dechrau dros y Gweilch am y tro cyntaf, tra bod Hanno Dirksen, Owen Watkin, Nicky Smith, Dmitri Arhip, Rynier Bernardo ac Olly Cracknell hefyd yn dychwelyd i’r tîm.

Rhys Webb fydd y capten wrth iddyn nhw deithio i Gasnewydd i herio’r tîm sydd un safle yn is na nhw yn y gynghrair ar hyn o bryd.

Fe fydd y Dreigiau hefyd yn chwilio am fuddugoliaeth ar ôl colli gartref o bwynt yn erbyn Caeredin yn eu gêm ddiwethaf.

Tîm y Dreigiau: Carl Meyer, Ashton Hewitt, Tyler Morgan, Adam Warren, Hallam Amos, Dorian Jones, Sarel Pretorius; Phil Price, Elliot Dee, Brok Harris, Rynard Landman, Matthew Screech, Lewis Evans, Nic Cudd, Taulupe Faletau (capt)

Eilyddion y Dreigiau: Thomas Rhys Thomas, Boris Stankovich, Lloyd Fairbrother, Nick Crosswell, Ed Jackson, Charlie Davies, Geraint Rhys Jones, Adam Hughes

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Hanno Dirksen, Owen Watkin, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar, Rhys Webb (capt); Nicky Smith, Scott Baldwin, Dmitri Arhip, Adam Beard, Rynier Bernardo, Olly Cracknell, Sam Underhill, James King

Eilyddion y Gweilch: Scott Otten, Gareth Thomas, Aaron Jarvis, Dan Lydiate, Joe Bearman, Brendon Leonard, Sam Davies, Jeff Hassler