Gweilch 16–25 Scarlets

Y Scarlets aeth â hi yn y gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Daeth cais yr un i’r ddau dîm mewn hanner cyntaf cyfartal ond cicio cywir Dan Jones ac Aled Thomas oddi ar y fainc oedd y gwahaniaeth yn y diwedd wrth i’r ymwelwyr o Lanelli fynd â hi.

Hanner Cyntaf

Dath pwyntiau cyntaf y prynhawn i’r ymwelwyr wrth i Dan Jones gicio’r Scarlets dri phwynt ar y blaen wedi chwe munud.

Ymatebodd y Gweilch gyda chais Josh Matavesi wedi chwarter awr. Llwyddodd Sam Davies gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd i roi’r tîm cartref saith pwynt ar y blaen.

Croesodd DTH van der Merwe am gais cyntaf Bois y Sosban wedi hynny ac roeddynt yn gyfartal wedi i Jones ychwanegu’r trosiad.

Cyfnewidiodd Davies a Jones gic gosb yr un yn neg munud olaf yr hanner wrth iddi aros yn gyfartal wrth droi, 13 pwynt yr un.

Ail Hanner

Bu rhaid aros dros ugain munud am bwyntiau cyntaf yr ail hanner, pan roddodd Aled Thomas y Scarlets ar y blaen gyda chic gosb.

Ymestynnodd yr eilydd faswr fantais yr ymwelwyr gyda thri phwynt arall yn fuan wedyn. Ac er i Davies daro nôl gyda thri phwynt i’r Gweilch, gorffennodd y Scarlets yn gryf gyda dwy gic gosb hwyr arall o droed Thomas.

16-25 y sgôr terfynol felly a dim hyd yn oed pwynt bonws i’r tîm cartref. Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch yn nawfed yn nhabl y Pro12 ac yn cryfhau sefyllfa’r Scarlets yn y pedwar uchaf, maent yn aros yn drydydd gyda phedair gêm yn weddill.

.

Gweilch

Cais: Josh Matavesi 15’

Trosiad: Sam Davies 15’

Ciciau Cosb: Sam Davies 27’, 31’, 71’

.

Scarlets

Cais: DTH van der Merwe 29’

Trosiad: Dan Jones 30’

Ciciau Cosb: Dan Jones 6’, 36’, Aled Thomas 63’, 67’, 75’, 80’