Gleision 56–8 Treviso

Croesodd y Gleision am wyth cais i gyd wrth iddynt chwalu Treviso ar Barc yr Arfau yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Sicrhaodd y tîm cartref y pwynt bonws wedi chwarter awr o’r ail hanner cyn ychwanegu pedwar cais arall yn y deg munud olaf.

Hanner Cyntaf

Cafodd y Gleision ddechrau da ac roeddynt saith pwynt ar y blaen wedi llai na deg munud diolch i gais Ellis Jenkins a throsiad Gareth Anscombe.

Caeodd Jayden Hayward y bwlch gyda thri phwynt i Treviso ond y tîm cartref oedd yn rheoli ac roeddynt ym mhellach ar y blaen erbyn hanner amser wedi cais Josh Navidi, 17-3 y sgôr wedi trosiad Anscombe.

Ail Hanner

Daeth trydydd cais y Gleision yn gynnar yn yr ail gyfnod wrth i Ray Lee-Lo hollti trwy amddiffyn yr Eidalwyr yn rhy rhwydd o lawer.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel chwarter awr wedi’r ail ddechrau diolch i gais Kristian Dacey, y bachwr yn croesi yn dilyn sgrym gref.

Cafodd Marco Lazzaroni gais cysur i Treviso toc wedi’r awr cyn i’r Gleision orffen mewn steil gyda phedwar cais arall yn y deg munud olaf.

Yr eilydd, Manoa Vosawai, a gafodd y cyntaf wedi sgarmes symudol, cyn i Tom James dirio wedi rhediad da Dan Fish.

Fish ei hun a gafodd y nesaf, yn gwibio at y llinell wedi cic gosb gyflym Lewis Jones, a chwblhaodd Rhys Patchell symudiad tîm da ym munud olaf yr wyth deg wrth i’r Cymry orffen mewn steil.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision dros y Gweilch a Chaeredin i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12, ac yn cadw eu gobeithion o gyrraedd y chwech uchaf yn fyw.

.

Gleision

Ceisiau: Ellis Jenkins 8’, Josh Navidi 33’, Ray Lee-Lo 42’, Kristian Dacey 55’, Manoa Vosawai 71’, Tom James 74’, Dan Fish 77’, Rhys Patchell 79’

Trosiadau: Gareth Anscombe 10’, 34’, 72’, Jarrod Evans 75’, 80’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 17’, 65’

.

Treviso

Ceisiau: Marco Lazzaroni 62’

Ciciau Cosb: Jayden Hayward 15’