Gleision 37–28 Munster

Cafodd y Gleision fuddugoliaeth bwynt bonws wrth i Munster ymweld â Pharc yr Arfau yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Sgoriodd Rhys Patchell bedwar pwynt ar bymtheg wrth i’r Cymry sicrhau buddugoliaeth dda yn erbyn y Gwyddelod.

Hanner Cyntaf

Munster a ddechreuodd orau, gan ruthro i wyth pwynt o fantais yn y chwe munud cyntaf diolch i gic gosb Ian Keatley a chais Darren Sweetnam wedi bylchiad gwreiddiol Rory Scannell.

Ciciodd Patchell bwyntiau cyntaf y Gleision yn fuan wedyn ond bu rhaid aros tan wyth munud cyn yr egwyl am gais cyntaf y tîm cartref. Macauley Cook oedd y sgoriwr, yn manteisio ar waith creu effeithiol Josh Navidi, ac roedd y Cymry ddau bwynt ar y blaen wrth droi diolch i drosiad Patchell.

Ail Hanner

Cyfnewidiodd Patchell a Keatley gic gosb yr un yn gynnar yn yr ail hanner cyn i gais Matthew Rees ymestyn mantais y Gleision, y capten yn croesi wedi sgarmes symudol effeithiol.

Tarodd Munster yn ôl bron yn syth gyda chais tebyg iawn cyn i Garyn Smith sgorio trydydd y tîm cartref, y canolwr yn dwyn y meddiant oddi wrth Munster cyn tirio.

Ciciodd Patchell a Johnny Holland dri phwynt yr un i’r timau wedi hynny cyn i Patchell sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws gyda phedwerydd cais ei dîm.

Roedd Jack O’Donoghue yn meddwl fod ei gais hwyr wedi achub pwynt bonws i’r Gwyddelod ond cafodd hwnnw ei gipio oddi arnynt gyda chic gosb hwyr Jarrod Evans i’r Gleision, 37-28 y sgôr terfynol.

Mae’r Gleision yn aros yn nawfed yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad ond maent bellach yn gyfartal ar 39 pwynt gyda’r Gweilch sydd yn wythfed. Mae’r canlyniad yn un da i’r Scarlets hefyd, sydd yn aros uwch ben Munster yn y pedwar uchaf diolch i fuddugoliaeth eu cydwladwyr.

.

Gleision

Ceisiau: Macauley Cook 32’, Matthew Rees 49’, Garyn Smith 54’, Rhys Patchell 73’

Trosiadau: Rhys Patchell 33’, 50’, 55’, 75’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 10’, 43’, Jarrod Evans 80′

.

Munster

Ceisiau: Darren Sweetnam 6’, Mike Sherry 52’, Jack O’Donoghue 78’

Trosiadau: Ian Keatley 53’, Johnny Holland 79’

Ciciau Cosb: Ian Keatley 3’, 46’, Johnny Holland 67’