Scarlets 24–15 Treviso

Mae’r Scarlets yn aros yn drydydd yn nhabl y Guinness Pro12 ar ôl trechu Treviso ar Barc y Scarlets nos Wener.

Roedd gan Fois y Sosban fantais iach ar yr egwyl ond tarodd yr Eidalwyr yn ôl wedi’r egwyl ac roedd angen cais hwyr Steffan Evans, ei ail o’r gêm, i ddiogelu’r fuddugoliaeth yn y diwedd.

Methodd Aled Thomas a Jayden Hayward gic gosb yr un cyn i Evans groesi am y cais agoriadol i’r tîm cartref, yr asgellwr yn curo sawl taclwr i orffen yn wych o dan y pyst.

Ychwanegodd y Scarlets ail gais hanner ffordd trwy’r hanner, y blaenasgellwr, James Davies yn ymestyn am y gwyngalch wedi sgarmes symudol effeithiol o lein bump.

Caeodd Jayden Hayward y bwlch i un pwynt ar ddeg gyda chic gosb yn fuan wedyn, 14-3 y sgôr ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Wnaeth yr ail hanner ddim dechrau’n dda iawn i Treviso wrth i’r mewnwr, Alberto Lucchese, gael ei anfon i’r gell gosb am drosedd yn ardal y dacl.

Yr Eidalwyr a gafodd y sgôr nesaf serch hynny gyda chais i Robert Barbieri, yr wythwr yn tirio wedi sgarmes symudol.

Roedd yr ymwelwyr yn ôl i bymtheg dyn ar y cae pan sgoriodd Barbieri ei ail ef ac ail ei dîm toc cyn yr awr. Bu rhaid iddo redeg dipyn pellach ar gyfer hwn, yn rhyng-gipio’r bêl ar y llinell hanner cyn rhedeg yr holl ffordd i sgorio o dan y pyst. Llwyddodd Hayward gyda’r trosiad syml ac roedd Treviso bwynt ar y blaen.

Yn ôl y daeth Bois y Sosban yn y chwarter olaf gyda Dan Jones yn eu rhoi nôl ar y blaen gyda thri phwynt syml o flaen y pyst.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel pan groesodd Evans am ei ail gais ef a thrydydd ei dîm wedi dwylo da Regan King a Hadleigh Parks yn y canol.

Rhoddodd trosiad Jones ddwy sgôr rhwng y timau gydag wyth munud i fynd ond doedd dim pedwerydd cais a phwynt bonws i fod i’r Scarlets yn y munudau olaf.

Bu rhaid iddynt fodloni yn hytrach ar y fuddugoliaeth yn unig, ond roedd hynny’n ddigon i’w cadw yn drydydd yn nhabl y Pro12.  

.

Scarlets

Ceisiau: Steffan Evans 13’, 71’, James Davies 18’

Trosiadau: Aled Thomas 13’, 18’, Dan Jones 72’

Cic Gosb: Dan Jones 67’

.

Treviso

Ceisiau: Robert Barbieri 55’, 59’

Trosiad: Jayden Hayward 59’

Cic Gosb: Jayden Hayward 21’

Cerdyn Melyn: Alberto Lucchese 47’