Billy McBryde oedd chwaraewr allweddol Cymru dan 20 ar Barc Eirias nos Sadwrn wrth iddyn nhw drechu Ffrainc o 16-10 i gadw eu gobeithion o ennill y Gamp Lawn yn fyw.

Hon oedd trydedd buddugoliaeth Cymru o’r bron yn y gystadleuaeth.

Fe giciodd McBryde dair cic gosb a throsiad i sicrhau mai Cymru yw’r unig wlad ddi-guro ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad erbyn hyn.

Byddan nhw’n herio Lloegr ym Mryste i geisio cipio’r Goron Driphlyg am y tro cyntaf ar Fawrth 11 cyn mynd ymlaen i geisio ennill y Gamp Lawn.

Cafodd Cymru gymorth nos Sadwrn wrth i asgellwr Ffrainc, Gabriel N’Gandebe dderbyn cerdyn coch wedi 56 o funudau am ei ail drosedd, sef tacl beryglus gyda’i draed ar gefnwr Cymru, Rhun Williams yn ystod cic a chwrs.

Aeth Cymru ar y blaen o 9-7 yn sgil y gic gosb a ddilynodd, ac fe aethon nhw o nerth i nerth wedi hynny.

Roedd ciciwr Ffrainc, Anthony Belleau eisoes wedi methu dwy gic wrth i Gymru fynd ar y blaen o 6-0 erbyn hanner amser.

Sgoriodd y canolwr Alex Arrate gais i Ffrainc i roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr cyn i McBryde daro’r gic gosb fuddugol i sicrhau’r pwyntiau.

George Gasson sgoriodd gais Cymru yn dilyn rhediad o 80 metr.

Sgorwyr Cymru: Gasson (cais); McBryde (trosiad, 3 cic gosb)

Sgorwyr Ffrainc: Arrate (cais); Belleau (trosiad, cic gosb)