Illtud Dafydd
Bydd chwarae dros eu rhanbarthau’r penwythnos yma yn gyfle i ambell un o garfan Cymru serennu, yn ôl Illtud Dafydd…

Mae’n siŵr bod Warren Gatland yn bles gyda’r fuddugoliaeth dros yr Alban. Doedd dim lot i fod yn bles gyda’r perfformiad, ond roedd hawlio buddugoliaeth cynta’r Cymry yn y Chwe Gwlad eleni yn rhyddhad i’r Ciwi.

Roedd y gêm yn bell o fod yn glasur, strategaeth ‘Warrenball’ yn gweithio i’r dim. Cadw’r gêm yn gul, gyda dynion mawr trwm yn rhedeg yn galed ag yn syth. Dw i’n amau’n fawr fod cais Gareth Davies wedi’i gynllunio, a lwcus oedd Cymru bod y cais wedi’i ganiatáu beth bynnag.

Ar ôl cais mewnwr y Scarlets roedd Cymru i’w weld wedi arafu braidd, yn disgwyl i’r Alban gilio ac ildio’r fuddugoliaeth yn hawdd.

Roedd Cymru yn euog o amharchu’r Albanwyr yn ystod y deugain munud cyntaf. Mae Vern Cotter yn haeddu clod mawr fel hyfforddwr, yn benodol am ei waith gydag ASM Clermont Auvergne.

Fe ddaw buddugoliaeth fawr iddo fel hyfforddwr rhyngwladol yn ystod y misoedd sydd i ddod dw i’n sicr.

Roberts ar dân eto

Daeth cais y doctor Jamie Roberts wedi chwarae disgybledig iawn. Canolwr y Cwins ar y llwybr tarw gan groesi. Ail berfformiad safonol Roberts o fewn llai nag wythnos.

Safonol iddo fe yw rhedeg yn galed gan fygwth y llinell fantais. Yn anffodus mae cadw’r bêl yn sianel y crys rif 12 yn mogi’r talentau eraill sydd ymysg yr olwyr, ond mwy ynglŷn â nhw’n hwyrach.

Daeth y cais olaf gan George North. Er iddo frasgamu heibio i dri Albanwr, agorodd ei lwybr i fyny gyda Sean Lamont yn penderfynu drifftio’n rhy gynnar. Hawdd oedd gwaith North gyda’r gwyngalch o’i flaen.

Roedd amddiffyn y Cymry yn solet, fel rydyn ni’n ei ddisgwyl o dan arweinyddiaeth y ‘guru’ o Wigan Shaun Edwards.

Trueni oedd gweld Duncan Taylor yn croesi am ail gais i’r Alban. Rhys Priestland yn saethu i fyny gan adael gofod i ganolwr y Saraseniaid i’w lenwi.

Bydd Gareth Anscombe yn siomedig gyda’i ymgais o dacl ef hefyd.

Cyfle gyda’u clybiau

Digon o edrych nôl ar y gêm a fu am y tro, wrth i ni droi ein sylw at gêm Ffrainc. Wrth aros am nos Wener nesaf ac i Les Bleus gyrraedd y brifddinas, gwylio gemau’r Pro12 yw trefn y penwythnos.

Wrth edrych ar gemau’r penwythnos mae tri ar ddeg aelod o garfan Gatland wedi’u rhyddhau i chwarae dros eu rhanbarthau.

Dw i wedi trafod ‘chydig am olwyr Rob Howley yn barod. Y rheiny fydd ar gael i’w rhanbarthau yw Lloyd Williams, Cory Allen, Alex Cuthbert, Tom James, Gareth Anscombe, Hallam Amos ac Aled Davies.

Gan edrych ar safle’r asgell chwith mae’n edrych fel bod Gatland neu Howley yn dal i geisio penderfynu ar y dyn fydd yn gwisgo’r crys rhif 11 yn erbyn Ffrainc.

Bydd yn rhaid i James a Cuthbert brofi eu hunain wrth groesawu Leinster i Barc yr Arfau. Bydd Hallam Amos ar bigau’r drain i hawlio lle yn y tîm hefyd wrth i’r Dreigiau deithio i ogledd yr Eidal.

Ystyried opsiynau

Mae Gatland wedi cyfaddef nad oes gan y dyn o Fynwy “gyflymder rhyngwladol”, ond ar ôl gweld Tom James yn cael ei ddal gan Duncan Taylor bnawn Sadwrn diwethaf, bydd yn rhaid i’r Ciwi ailystyried ei opsiynau.

Mae sawl safle i’w benderfynu, a bydd perfformiadau da’r penwythnos yma yn helpu achos unigolion.

Mae’n adeg gyffrous i ddilyn tîm Cymru pan nad yw pob safle wedi’i benderfynu cyn i’r tîm gael ei chyhoeddi, newid mawr o’i gymharu â’r rhan fwyaf o gyfnod Gatland.

Pwy bynnag sy’n cael eu dewis, ennill sydd rhaid yn erbyn gwŷr Guy Noves.