Matthew Pewtner
Mae asgellwr y Dreigiau, Matthew Pewtner, wedi gorfod rhoi’r gorau i chwarae rygbi’n broffesiynol oherwydd anafiadau i’w ben.

Dyw’r chwaraewr 25 oed ddim wedi llwyddo i wella o gyfergyd a gafodd wrth chwarae llynedd, ac ar gyngor meddygol mae nawr wedi rhoi’r gorau iddi.

Pewtner yw ail chwaraewr y Dreigiau o fewn llai na blwyddyn i orfod ymddeol oherwydd anafiadau i’r pen, ar ôl i Ashley Smith ddilyn cyngor meddygol a gwneud yr un peth ym mis Mai llynedd.

Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Lyn Jones y byddai colled fawr ar ei ôl, ar ac oddi ar y cae.

‘Tristwch’

Mae Matthew Pewtner nawr yn bwriadu gorffen cwrs ymarfer dysgu er mwyn ceisio mynd yn athro, ond fe gyfaddefodd y bydd yn cymryd ychydig o amser i ddygymod â diwedd ei yrfa rygbi.

“Mae’n siom fawr mod i wedi gorfod ymddeol o rygbi oherwydd anaf. Mae wedi bod yn anodd iawn dod i arfer â’r syniad o ymddeol ond fi’n gwybod mai dyma yw’r penderfyniad iawn i mi a fy iechyd,” meddai’r asgellwr.

“Dw i wedi bod yn chwarae rygbi ers mod i’n saith oed ac mae meddwl na fyddai’n gallu chwarae eto’n fy ngwneud i’n drist.

“Nid dyma’n unig fy swydd, mae rygbi wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd, a fi wedi cyfarfod cymaint o ffrindiau da drwy rygbi.”