Yn dilyn cynnal gemau Cwpan Rygbi’r Byd yng Nghaerdydd y llynedd, mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal Pencampwriaeth Prifysgolion y Byd ar gyfer Rygbi Saith bob Ochr dros yr haf.

 

Dyma’r tro cyntaf i’r Bencampwriaeth gael ei chynnal yn y DU ac fe fydd yn cael ei chynnal rhwng  6 a 9 Gorffennaf.

Mae Pentref Chwaraeon Prifysgol Abertawe hefyd wedi cynnal Pencampwriaethau Athletau Ewrop a Phencampwriaeth Rygbi Cyffwrdd Ewrop yn y blynyddoedd diwethaf.

Bydd hyd at 28 o dimau o bedwar ban y byd yn dod i Abertawe ar gyfer y bencampwriaeth ac mae’r gystadleuaeth wedi cael ei chynnal ym Mrasil a Tsieina yn y gorffennol.

Mae’r Brifysgol hefyd yn hysbysebu am wirfoddolwyr ar gyfer y bencampwriaeth ac mae modd i ddarpar wirfoddolwyr lenwi ffurflen gais ar lein.