Scarlets 22–21 Caeredin

Roedd angen cic hwyr Aled Thomas ar y Scarlets i drechu Caeredin yn y Guinness Pro12 nos Wener, er iddynt fod yn gyfforddus ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ar Barc y Scarlets.

Dechreuodd Bois y Sosban yn wych gyda seren y gêm, Morgan Allen, yn carlamu drosodd ar gyfer cais cyntaf y noson.

Llwyddodd Steve Shingler gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i roi’r tîm cartref ddeg pwynt ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.

Bu rhaid iddynt wneud newid yn safle’r maswr wedi hynny ond llwyddodd Aled Thomas gyda’i gynnig cyntaf ef at y pyst hefyd wrth i’r Cymry aros ar y blaen tan hanner amser, 13-3 y sgôr wedi deugain munud.

Cic gosb o droed Nathan Fowles oedd pwyntiau cyntaf yr ail hanner, ond llwyddodd Thomas gyda dau gynnig arall yn fuan wedyn gan ymestyn mantais ei dîm i dri phwynt ar ddeg.

Caeredin, serch hynny, oedd yr unig dîm yn y gêm yn y chwarter olaf wrth i ddau gais orfodi diweddglo cyffrous.

Ymestynnodd Cornell Du Preez am y gwyngalch ar gyfer y cyntaf cyn dadlwytho’n gelfydd i Alex Toolis ar gyfer yr ail. Llwyddodd Greig Tonks gydag un o’r ddau drosiad yn ogystal â chic gosb, ac roedd ei dîm bwynt ar y blaen gyda phum munud i fynd.

Deffrodd Bois y Sosban wedi hynny gan orffen y gêm yn gryf, a phan ddyfarnodd Andrew Brace, yn ddadleuol braidd, fod camsefyll yng nghanol cae, fe lwyddodd Thomas gyda’r gic gosb i ennill y gêm i’r Scarlets.

Mae’r Scarlets yn llithro un lle i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y fuddugoliaeth, gan i Leinster chwalu Zebre yn y gêm arall nos Wener.

.

Scarlets

Cais: Morgan Allen 6’

Trosiad: Steve Shingler 7’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 18’, Aled Thomas 24’, 47’, 53’, 77’

.

Caeredin

Ceisiau: Cornell Du Preez 58’, Alex Toolis 74’

Trosiad: Greig Tonks 75’

Ciciau Cosb: Nathan Fowles 21’, 43’, Greig Tonks 67’