Mae’n arwydd o dwf y gymuned Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe bod ganddi bellach, ers y tymor yma, ei thîm rygbi bechgyn ei hun.

Am flynyddoedd prin yr oedd myfyrwyr Cymraeg y coleg yn dod at ei gilydd i chwarae’r gêm oni bai am pan oedd cystadlaethau saith bob ochr yr Eisteddfod Ryng-golegol yn digwydd.

Ond ar ôl i Glwb Rygbi Tawe ei ffurfio ym mis Medi llynedd, mae ganddyn nhw nawr dîm pymtheg bob ochr sydd yn barod i herio prifysgolion eraill Cymru.

Mae’r tîm yn ymarfer yn wythnosol bellach, ac fe gafodd golwg360 gip arnyn nhw wrthi’n ddiweddar:

Yn ôl Gwyn Rennolf, llywydd y clwb, bu tipyn o frwydr i ddechrau rhwng y myfyrwyr ac awdurdodau’r brifysgol ers mwyn cael sefydlu tîm ar gyfer y Cymry Cymraeg.

“Pan wnaethon ni gychwyn y tîm pymtheg bob ochr i ddechrau fe gysyllton ni â’r penaethiaid chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, ond i ddechrau roedden nhw’n pallu gadael i ni ffurfio achos roedden ni’n exclusive medden nhw ac yn stopio pobl oedd yn siarad gwahanol ieithoedd rhag chwarae,” esboniodd.

“Ar ôl bach o frwydro, a thynnu ar rai o’r deddfau ac yn y blaen, fe wnaethon nhw adael i ni ffurfio tîm swyddogol wedyn.

“Fe ddechreuon ni fis Medi diwethaf, a ni nawr yn ymarfer bob prynhawn dydd Mercher. Nawr mae’r Rhyng-gol yn dod lan felly ni’n paratoi ar gyfer hwnna.”

Trafferth gemau

Gan eu bod nhw’n dîm newydd fodd bynnag mae trefnu gemau cyson wedi bod yn anodd, gan eu bod yn aml yn gorfod cael eu gohirio am resymau megis y tywydd a hyd yn oed oherwydd rheolau yswiriant.

“Hyd yn hyn ni ‘di chwarae un gêm yn erbyn Caerdydd – fe gollon ni 13-10, ond ni oedd y tîm gorau!” meddai Gwyn Rennolf.

“Ond tymor hyn mae gennym ni gemau yn erbyn clybiau lleol yn dod lan, ac yn erbyn Aberystwyth a Chaerdydd gobeithio. Bydd Rhyng-gol diwedd mis yma, felly gawn ni weld ble ni’n sefyll.”

Maen nhw hefyd, fel byddech chi’n ei ddychmygu, yn mwynhau’r ochr gymdeithasol sydd yn dod o fod yn rhan o glwb rygbi.

“Fel clwb mae gyda ni tua 50 aelod,” ychwanegodd Gwyn Rennolf.

“Pob dydd Mercher ar ôl ymarfer ni’n cael socials a ni’n mynd i Siop Tŷ Tawe, bar iaith Gymraeg yn Abertawe. Ni’n gwneud lot drwy’r Gymraeg.”