Luke Charteris
Dyw Cymru methu fforddio gadael i unrhyw beth arall fynd o chwith wrth iddyn nhw fynd am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn ôl y clo Luke Charteris.

Roedd y gêm gyfartal yng ngornest agoriadol y Cymry yn erbyn y Gwyddelod yn golygu bod eu gobeithion o gipio’r Gamp Lawn a’r Goron Driphlyg drosodd am flwyddyn arall.

Ond fe all tîm Warren Gatland gipio’r bencampwriaeth o hyd gyda thair gêm gartref i ddod yn ogystal â thrip i Twickenham i herio Lloegr.

Ac mae’r dasg sydd yn eu hwynebu yn un syml bellach, yn ôl y chwaraewr ail reng oedd yn rhan o’r gêm gyfartal yn Nulyn.

“Mae’n rhaid i ni ennill bob un o’r pedwar nawr,” meddai Luke Charteris.

“Fe welon ni llynedd pa mor agos mae’r gystadleuaeth yma’n gallu bod. Yn anffodus does dim Camp Lawn a Choron Driphlyg i fynd amdani bellach, ond mae’n rhaid i ni gael pedair buddugoliaeth allan o bedair.”

Her gorfforol

Bydd Gatland yn enwi ei dîm i herio’r Alban ddydd Mercher, wrth i Gymru baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth yn Stadiwm Principality.

Y disgwyl yw y bydd Dan Biggar yn methu’r gêm wedi iddo anafu’i ffêr yn yr ornest agoriadol, ond fe allai Gareth Anscombe wella o anaf i linyn y gâr mewn pryd.

Colli o 15-9 yn erbyn y Saeson oedd tynged yr Albanwyr yn eu gêm gyntaf nhw, ac mae Charteris yn disgwyl her anodd i’r Cymry ddydd Sadwrn.

“Fe welais ychydig o gêm [Alban v Lloegr], ac roedden nhw [yr Alban] yn edrych yn dda,” meddai clo Racing Metro.

“Roedd hi’n gêm gorfforol yn erbyn Lloegr – fe aeth y ddau bac amdani – ac fe fyddan nhw’n her, yn enwedig gan fod gennym ni ddiwrnod yn llai i adfer, felly bydd rhaid i ni edrych ar ôl ein hunain.”