Fe fydd Cymru’n asesu’r anaf i ffêr Dan Biggar ddydd Llun, ar ôl i’r maswr gael ei orfodi oddi ar y cae wedi 21 o funudau yn Nulyn.

Cafodd Biggar ei daro oddi ar gic gynta’r gêm yn erbyn Iwerddon a orffennodd yn gyfartal 16-16.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland ei bod yn rhy gynnar i benderfynu a fydd Biggar yn methu’r gêm yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.

Wedi iddo ddod i’r cae, sgoriodd yr eilydd o faswr Rhys Priestland 11 o bwyntiau er iddo fethu cic adlam yn y munudau clo.