Shane Williams
Mae Shane Williams wedi dweud y bydd rhwystredigaeth Cymru o Gwpan Rygbi’r Byd llynedd yn eu tanio i lwyddiant yn y Chwe Gwlad eleni – yn union fel 2008 a 2012.

Fe gipiodd y crysau cochion y Gamp Lawn yn y Chwe Gwlad yn syth ar ôl y ddau Gwpan Byd diwethaf, ac yn ôl cyn-asgellwr y tîm mae’n bosib iawn y bydd hanes yn ailadrodd ei hun.

Ond er eu bod yn chwarae oddi cartref yn erbyn Iwerddon a Lloegr, y ddau dîm sydd yn fwyaf tebygol o’u herio am y tlws, dyw hynny ddim yn poeni’r dyn sydd â record ceisiau ei wlad.

“Mae tîm cryf gyda Chymru, lot o fois wedi dod nôl o anafiadau, a chwpl mwy o ddod nôl. Maen nhw’n chwarae gyda hyder, felly mae wastad cyfle ‘da nhw,” meddai Shane Williams wrth golwg360.

“Y tro hyn, fel y tro diwethaf iddyn nhw ennill y Gamp Lawn [yn 2012] mae’n rhaid iddyn nhw fynd i Iwerddon gyntaf i chware yn erbyn tîm cryf iawn.

“Ond fi’n meddwl os maen nhw’n gallu gwneud ‘ny bydd hyder gyda nhw wedyn, tair gêm gartref [i ddod], ac maen nhw’n ddigon da i fynd i Twickenham eto i ennill.

“Fi’n credu eu bod nhw’n ddigon da i ennill y gystadleuaeth.”

Rhwystredigaeth

Bydd y siom o fethu â mynd yn bellach na rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd hefyd yn gwneud carfan Cymru’n benderfynol o lwyddo eleni, yn ôl y gŵr fu’n rhan o lwyddiannau 2008 a 2012.

“Roedd e’n galed i Gymru yng Nghwpan y Byd ac yn rhwystredig iawn, roedd lot o anafiadau cyn y gystadleuaeth a hefyd yn ystod e,” meddai cyn-chwaraewr y Gweilch sydd bellach wedi troi ei sylw at hyfforddi a sylwebu.

“Ro’n nhw’n anlwcus yn erbyn De Affrica i ddim mynd drwyddo, ond mae’n rhaid i chi aros pedair blynedd arall wedyn i fynd i Gwpan y Byd, felly mae’n galed pan chi ddim yn llwyddiannus ynddo fe.

“Felly’r peth nesaf i wneud yw paratoi at y gystadleuaeth nesaf, sef y Chwe Gwlad, felly mae jyst angen meddwl am beth sydd angen ei wneud i ennill y gystadleuaeth hon, a falle dyna pam maen nhw’n llwyddiannus ar ôl Cwpan y Byd.”

‘Newyddion mewn un lle’

Wrth i’r cyffro adeiladu ar gyfer y gystadleuaeth, mae Shane Williams wedi lansio ap ffôn newydd Shane’s Rugby News fydd yn dod â chynnwys rygbi o wefannau newyddion, blogiau a chyfryngau cymdeithasol i gyd at ei gilydd.

“Nes i weld yr un math o beth mewn pêl-droed – y syniad yw bod e’n one stop shop i bawb sydd eisiau newyddion rygbi, neu ffeindio mas beth mae chwaraewyr yn ei wneud ar flogiau neu social media,” esboniodd cyn-asgellwr Cymru.

“Chi’n cael newyddion o bob news feed rygbi am Gwpan Ewrop, y Pro12, Uwch Gynghrair Aviva, y Chwe Gwlad, beth bynnag. Gobeithio bydd e’n dod a’r holl newyddion fyddwch chi eisiau os ydych chi’n ffan rygbi.

“Beth bynnag allwch chi feddwl amdano o ran newyddion rygbi, bydd e’n dod mas ar yr ap hwn.”

Stori: Iolo Cheung