Gweilch 20–20 Glasgow

Gêm gyfartal a gafodd y Gweilch a Glasgow ar y Liberty yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.

Roedd hi’n gêm dda er gwaethaf y tywydd gwael ac roedd y Cymry’n haeddu dau bwynt o leiaf yn erbyn y pencampwyr.

Hanner Cyntaf

Llwyr reolodd Glasgow’r chwarter awr agoriadol ac roeddynt yn llawn haeddu mynd chwe phwynt ar y blaen gyda dwy gic gosb o droed Duncan Weir.

Cafodd y Gweilch gyfnod gwell wedi hynny a hanerodd Sam Davies y bwlch gyda phwyntiau cyntaf y Cymry hanner ffordd trwy’r hanner.

Sgoriodd y tîm cartref y cais agoriadol yn fuan wedyn hefyd wrth i Eli Walker groesi. Symudiad yn syth o’r cae ymarfer oedd o, gyda Walker yn dod i mewn oddi ar ei asgell i sgorio o dan y pyst yn dilyn lein ar y linell 22 medr. Llwyddodd Davies gyda’r trosiad i roi pedwar pwynt o fanatais i’r Gweilch.

Dau funud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i Rory Hughes daro nôl gyda chais i’r ymwelwyr. Enillodd Lee Jones dir da cyn i weddill tîm Glasgow gadw’r bêl yn fyw yn effeithiol i roi sgôr hawdd ar blât i Hughes yn y gornel chwith.

Rhoddodd trosiad Weir yr Albanwyr dri phwynt ar y blaen ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl. 10-13 y sgôr wedi deugain munud.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn addawol i’r Gweilch wrth i gic gosb gynnar Davies unioni’r sgôr.

Cafodd Glasgow gyfnod da iawn wedi hynny a mater o amser yn unig oedd hi tan i’r cais ddod. Y prop, Ryan Grant, sgoriodd hwnnw yn y diwedd, yn tirio wrth fôn y ryc yn dilyn cyfnod hir o bwyso.

Rhoddodd trosiad Weir yr Albanwyr saith pwynt ar y blaen ond yn ôl daeth y tîm cartref. Y Gweilch oedd y tîm gorau yn y chwarter olaf gyda Sam Davies yn rheoli popeth o safle’r maswr.

Ei fylchiad ef a’i ddwylo taclus greodd gais i Dan Evans ddeg munud o’r diwedd, a throsodd y cais i unioni’r sgôr.

Dangosodd y Gweilch ddigon o fenter yn y munudau olaf yn ymosod o’i llinell gais eu hunain ond bu rhaid iddynt fodloni ar rannu’r pwyntiau yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch uwch ben Glasgow ond mae’r rhanbarth o Gymru’n aros yn seithfed yn nhabl y Pro12.

.

Gweilch

Ceisiau: Eli Walker 24’, Dan Evans

Trosiadau: Sam Davies 25’, 70’

Ciciau Cosb: Sam Davies 20’, 44’

.

Glasgow

Ceisiau: Rory Hughes 27’, Ryan Grant 54’

Trosiadau: Duncan Weir 28’, 54’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 4’, 8’