Rhidian Jones
Rhidian Jones sydd yn edrych ymlaen at ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yr wythnos nesa’ …

Mae’n dipyn o ystrydeb erbyn hyn, ond os wnaiff Cymru ennill eu gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad fe ddylen nhw ennill y bencampwriaeth, yn enwedig gan fod tair gêm gartref i ddod yn erbyn y timau mewn glas.

Pencampwyr y llynedd, Iwerddon, yw ein gwrthwynebwyr yn y gêm gyntaf ar 7 Chwefror, ac er bod y gêm yn Nulyn, Cymru yw’r ffefrynnau yn fy marn i.

Pam? Mae golwg sefydlog ar garfan Warren Gatland, fe gawson nhw Gwpan y Byd digon teilwng er gwaethaf anafiadau di-ri, a bydd chwaraewyr pwysig megis Jonathan Davies ar gael unwaith eto.

Mae’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr wedi cydnabod nad ydyn ni wedi bod yn sgorio digon o geisiau yn erbyn y timau mawr ac felly does bosib nad yw Rob Howley a Gatland wedi bod yn saernïo ein gallu ymosodol y tro hwn.

Iwerddon yn brin o hyder?

Mae Iwerddon, ar y llaw arall, yn edrych fel tîm sy’n mynd trwy gyfnod o newid. Mae un arall o’r hoelion wyth, Paul O’Connell, wedi mynd, ac mae ambell i chwaraewr pwysig mas o’r bencampwriaeth – Tommy Bowe, Peter O’Mahony, yr ail reng addawol Iain Henderson, a’r prop ifanc Marty Moore.

Ar sail perfformiad y taleithiau Gwyddelig yng Nghwpan Ewrop – cystadleuaeth sydd mor agos at eu calonnau – a’r modd y gwibiodd olwyr yr Ariannin heibio i amddiffyn Iwerddon yng Nghwpan y Byd, ni fydd rygbi Iwerddon yn byrlymu o hyder ar hyn o bryd.

Ond maen nhw’n chwarae gartref, fe fyddan nhw’n hynod o daer, a does dim yn well gan y Gwyddelod na chael pawb yn dweud bod eu gwrthwynebwyr yn mynd i ennill.

Eto i gyd, fe enillodd Cymru yn Nulyn yn niwedd mis Awst ac fe guron ni nhw’r llynedd yn y Chwe Gwlad, a dw i’n credu y gwnawn ni ennill eto ddydd Sul nesaf o ryw bum pwynt.

Dim gobaith gan yr Alban

Yn groes i’r holl sôn am dro ar fyd yn rygbi’r Alban yn dilyn Cwpan y Byd da a’r golled funud olaf i Awstralia, wela i ddim arwyddion clir i ddynodi bod record ofnadwy’r Alban yn y bencampwriaeth yma’n mynd i newid.

Fe fyddan nhw’n dîm caled i’w curo, yn arbennig ar ôl tynnu mewn nifer o fois o hemisffer y de i gryfhau’r pac megis John Hardie, Blair Cowan, Josh Strauss a WP Nel, ond dwlu yw unrhyw sôn amdanyn nhw’n ennill y bencampwriaeth.

Dw i’n rhagweld y bydd Lloegr yn curo’r Alban yn gymharol gyfforddus, yn enwedig wrth i’r hyfforddwr newydd Eddie Jones roi tipyn o sbarc iddyn nhw.

Lloegr yn fygythiad

Efallai ei bod hi braidd yn gynnar i Eddie Jones lywio Lloegr i ennill y bencampwriaeth gyfan eleni heb fawr o amser paratoi (er, fe lwyddodd Gatland gyda Chymru yn 2008!), ond wrth edrych ymhellach i’r dyfodol dw i’n proffwydo y bydd Lloegr yn wir fygythiad, yn fyd-eang, ymhen tair i bedair blynedd.

Mae ganddyn nhw hyfforddwr craff, mae clybiau Lloegr yn bwerus iawn ar hyn o bryd, ac mae cenhedlaeth hynod addawol o fois ifanc yn cael eu meithrin – pobol fel Maro Itoje, Elliot Daly, Henry Slade, Sam Underhill y Gwalch, heb sôn am y cawr o Ffiji sy’n siŵr o gynrychioli Lloegr yn anffodus, Nathan Hughes.

Ffrainc v yr Eidal

Dylai fod yn ddechreuad llwyddiannus i deyrnasiad newydd yr hen law o Toulouse, Guy Novès.

Nid yw’r Eidal wedi argyhoeddi dan Jaques Brunel, a pheryg y bydd rhaid aros tan i Conor O’Shea gymryd yr awenau ar ôl y Chwe Gwlad, fel sy’n cael ei ragweld, cyn i’r Azzurri ddechrau gwella.

Mwynhewch y cystadlu!