Mae’r Gweilch wedi cadarnhau bod eu mewnwr Martin Roberts bellach wedi symud i Fryste ym Mhencampwriaeth Lloegr.

Roedd y chwaraewr 29 oed wedi cytuno i groesi’r bont i Loegr ar ddiwedd y tymor beth bynnag, ond gyda chyfleoedd yn brin gyda’r Gweilch mae’r rhanbarth wedi cytuno i adael iddo fynd yn gynnar.

Mae Rhys Webb yn agos at ddychwelyd o anaf i’r Gweilch, tra bod Brendon Leonard a Tom Habberfield hefyd ar gael yn y garfan.

Roedd Bryste hefyd yn awyddus i’w arwyddo’n gynt gan fod disgwyl i’w mewnwr dewis cyntaf, y Cymro Dwayne Peel, fod allan ag anaf nes o leiaf fis Mawrth.