Caerwysg 33–17 Gweilch

Mae’r Gweilch allan o Gwpan Pencampwyr Ewrop wedi diweddglo dramatig i grŵp 2 brynhawn Sul.

Dechreuodd y Cymry’r prynhawn ar frig y grŵp, angen buddugoliaeth yn erbyn Caerwysg ar Barc Sandy i sicrhau eu lle yn wyth olaf y gystadleuaeth. Ond wedi buddugoliaeth bwynt bonws i’r Saeson a buddugoliaeth annisgwyl i Bordeaux yn erbyn Clermont yn Ffrainc, Caerwysg orffennodd ar frig y tabl!

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y tîm cartref yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi llai na dau funud wrth i sgarmes symudol hyrddio Kai Horstmann drosodd am gais cyntaf y gêm.

Roedd y Gweilch yn gyfartal bum munud yn ddiweddarach wedi i Hanno Dirksen wthio’i hun trwy ddau daclwr am gais i’r ymwelwyr.

Parhau a wnaeth y dechrau cyffrous ac roedd cerddoriaeth Tomos y Tanc yn atseino dros Barc Sandy o fewn dim wedi i Thomas ‘y Tanc’ Waldrom wthio drosodd am gais arall i Gaerwysg.

Gyda’r gwynt yn eu herbyn, gorfodwyd y Gweilch i chwarae rhan helaeth o weddill yr hanner cyntaf yn eu hanner eu hunain, ond ni fu newid yn y sgôr, 14-7 i’r tîm cartref ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn dda i’r Gweilch gyda chic gosb gynnar Dan Biggar yn cau’r bwlch i bedwar pwynt, ond newidiodd pethau yn fuan wedyn wrth i Scott Baldwin gael ei anfon i’r gell gosb am dacl hwyr.

Manteisiodd Caerwysg yn syth wrth i James Short sgorio trydydd cais y tîm cartref, yr asgellwr yn gorffen yn dda ar ôl casglu cic daclus Gareth Steenson ar y llinell hanner.

Sicrhaodd y Saeson bwynt bonws chwarter awr o’r diwedd pan groesodd Short am ei ail gais ef a phedwerydd ei dîm, ac roedd y gêm yn diflannu o afael y Gweilch wedi i Steenson lwyddo gyda throsiad anodd o’r ystlys i roi tair sgôr rhwng y timau.

Roedd y bwlch i lawr i naw gyda deg munud i fynd yn dilyn cais cosb i’r Gweilch, ond Caerwysg a gafodd y gair olaf gydag ail gais i seren y gêm, Waldrom. Ychwanegodd will Hooley y trosiad wrth iddi orffen yn 33-17 i’r tîm cartref.

Y Gêm Arall

Yn y cyfamser, yn y Stade Marcel-Michelin, brwydrodd Bordeaux Begles yn ôl gyda dau gais yn y deuddeg munud olaf yn erbyn Clermont Auvergne. Roedd hynny’n ddigon, nid yn unig i ennill y gêm, ond i amddifadu’r tîm cartref o ail bwynt bonws hefyd.

O ganlyniad, gorffennodd Clermont y grŵp gyda phymtheg pwynt a’r tri thîm arall i gyd gydag un ar bymtheg. Oherwydd record Caerwysg yn erbyn Boredaux a’r Gweilch, y Saeson orffennodd ar y brig.

Mae lle i’r tri thîm sydd â’r mwyaf o bwyntiau yn yr ail safle yn eu grwpiau yn wyth olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop hefyd, ond gyda grŵp 2 yn gorffen mor agos, doedd dim gobaith i neb ond y buddugwyr symud ymlaen.

.

Caerwysg

Ceisiau: Kai Horstmann 2’, Tom Waldrom 9’, 78’, James Short 51’, 64’

Trosiadau: Gareth Steenson 3’, 10’, 66’, Will Hooley 79’

.

Gweilch

Ceisiau: Hanno Dirksen 7’, Cais Cosb 70’

Trosiadau: Dan Biggar 8’, 71’

Cic Gosb: Dan Biggar 45’

Cerdyn Melyn: Scott Baldwin 48’