Warren Gatland
Mae S4C wedi cadarnhau eu bod wedi dod i gytundeb â BBC ac ITV er mwyn dangos holl gemau Cymru yn y Chwe Gwlad.

Eleni mae’r hawliau darlledu yn y Saesneg ar gyfer y gystadleuaeth, sydd yn dechrau mewn ychydig llai na phythefnos, wedi cael eu rhannu rhwng y ddau brif ddarlledwr.

Ond fe fydd gwylwyr hefyd yn gallu parhau i weld y crysau cochion ar y sianel Gymreig drwy gydol y gystadleuaeth yn fyw ar raglen Clwb Rygbi Rhyngwladol.

Bydd S4C hefyd yn dangos dwy o gemau cartref tîm dan-20 Cymru, wrth iddyn nhw herio’r Alban ar 12 Chwefror ac yna Ffrainc ar 27 Chwefror.

Cyflwynwyr cyfarwydd

Ddydd Mercher fe gyhoeddodd Warren Gatland ei garfan ar gyfer y gystadleuaeth, oedd  yn cynnwys un chwaraewr yn unig sydd heb ennill cap dros Gymru eto.

Bydd tîm cyflwyno Clwb Rygbi Rhyngwladol yn un cyfarwydd unwaith eto, wrth i Dwayne Peel, Dafydd Jones, Deiniol Jones ac Andrew Coombs ymuno â’r prif gyflwynydd Gareth Roberts yn y stiwdio, gyda Gareth Charles a Gwyn Jones yn y blwch sylwebu.

“Mae’r Bencampwriaeth RBS 6 Gwlad yn un o’r cystadlaethau chwaraeon mwyaf yn y calendr blynyddol ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu rhoi sylw i gemau Cymru yn Gymraeg,” meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys.

“Hoffwn ddiolch i’r ddau ddarlledwr BBC ac ITV am helpu i wneud y cyfan yn bosibl, gan sicrhau bod ein gwylwyr yn cael gwasanaeth o’r ansawdd uchaf posibl wrth fwynhau digwyddiadau cenedlaethol mor bwysig.”

Gemau Chwe Gwlad Cymru

7/2/2016 (Dydd Sul) Iwerddon v Cymru – cic gyntaf 15:00

13/2/2016 (Dydd Sadwrn) Cymru v Yr Alban – cic gyntaf 16:50

26/2/2016 (Nos Wener) Cymru v Ffrainc – cic gyntaf 20:05

12/3/2016 (Dydd Sadwrn) Lloegr v Cymru – cic gyntaf 16:00

19/3/2016 (Dydd Sadwrn) Cymru v Yr Eidal – cic gyntaf 14:30