Harlequins 34–26 Gleision

Gadawodd y Gleision ormod o waith i’w hunain yn yr ail hanner wrth golli yn erbyn yr Harlequins yn y Twickenham Stoop brynhawn Sul.

Ildiodd y Cymry bedwar cais mewn hanner cyntaf trychinebus, ac er iddynt sgorio pedwar eu hunain wedi’r egwyl roedd yn ormod o fynydd i’w ddringo wrth i’w gobeithion main o ddianc o grŵp 3 Cwpan Her Ewrop ddiflannu.

Pedwar munud yn unig oedd ar y cloc pan diriodd Rob Buchanan gais cyntaf y tîm cartref wedi cic gosb gyflym Danny Care.

Ychwanegodd Jack Clifford yr ail wedi deg munud yn dilyn sgarmes symudol effeithiol ac roedd y gêm yn prysur fynd o afael y Gleision hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gais Marland Yarde.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel i’r Saeson cyn yr egwyl wedi i gic gywir Nick Evans ganfod Ross Chisholm am y pedwerydd cais.

Daeth cais cyntaf y Gleision yn gynnar yn yr ail hanner wrth i Cory Allen daro lein dda i dorri trwy’r amddiffyn cartref.

Plymiodd Dab Fish drosodd yn y gornel ar gyfer ail gais yr ymwelwyr yn fuan wedyn a roedd y Cymry yn ôl yn y gêm pan sgoriodd Lloyd Williams y trydydd gydag ychydig llai na chwarter awr i fynd.

Croesodd Fish am ei ail gais ef a phedwerydd ei dîm wyth munud o’r diwedd i sicrhau o leiaf un pwynt bonws i’r Gleision. Ond sicrhaodd cic gosb hwyr Ben Botica nad oedd buddugoliaeth na hyd yn oed ail bwynt bonws i fod i’r ymwelwyr o Gymru.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn drydydd yn nhabl grŵp 3 gydag un gêm ar ôl, gartref yn erbyn Calvisano nos Wener.

.

Harlequins

Ceisiau: Rob Buchanan 4’, Jack Clifford 11’, Marland Yarde 22’, Ross Chisholm 39’

Trosiadau: Nick Evans 5’, 12’, 23’, 40’

Ciciau Cosb: Nick Evans 55’, Ben Botica 80’

.

Gleision

Ceisiau: Cory Allen 42’, Dan Fish 49’, 72’, Lloyd Williams 67’

Trosiadau: Rhys Patchell 43’, 67’, 73’